Mae cofeb wedi cael ei dadorchuddio yn Sir Gaerfyrddin i goffáu ymgyrch i achub traeth rhag y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rhwng 1969 a 1971, cafodd ymgyrch Save Our Sands ei lansio gan y gymuned leol i wrthwynebu cynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i roi cromen saethu a chanolfan profi taflegrau yn ardal traeth Pen-bre.

50 mlynedd yn ddiweddarach, i anrhydeddu’r rhai fu’n brwydro i ddiogelu’r traeth, mae saith carreg wedi cael eu codi.

Mae’r saith carreg yn cynrychioli’r grwpiau unigol a fu’n brwydro, a saith milltir traeth Cefn Sidan, ac mae plac sy’n adrodd hanes yr ymgyrch a pham crëwyd y parc gwledig wedi cael ei osod yno hefyd.

Roedd ymgyrchwyr a’u ffrindiau a’u teuluoedd yn poeni y byddai hanes y frwydr yn cael ei anghofio, felly fe wnaethon nhw fwrw ati i gasglu arian i godi cofeb barhaol.

‘Amgylchedd wahanol iawn’

Dywedodd y grŵp, a oedd yn cael ei alw yn SOS@50 hyd nes y cafodd ei ddiddymu ym mis Awst 2019, na fyddai Parc Gwledig Pen-bre yn bodoli “fel rydym yn ei adnabod heb yr ymgyrch hanesyddol a chaled hon ledled yr ardal”.

“Byddai 15,000 erw o dir i gyfeiriad y môr o’r rheilffordd rhwng Pen-bre a Chydweli wedi dod yn gromen saethu a chanolfan profi taflegrau, gan wahardd gweithgareddau hamdden ar hyd y draethlin rhwng arfordir Gŵyr a Dinbych-y-pysgod,” meddai’r grŵp.

“Heb y frwydr aruthrol yn erbyn llywodraeth y cyfnod a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, byddem wedi bod yn byw – ac, mae’n debyg, yn parhau i fod yn byw – mewn amgylchedd gwahanol iawn i’r amgylchedd y mae’n fraint i ni ei fwynhau heddiw.”

‘Adrodd yr hanes’

Mae Parc Gwledig Pen-bre hefyd wedi lansio Llwybr Hanesyddol Realiti Estynedig sy’n tywys pobol drwy’r hyn ddigwyddodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, ac mae’n bosib lawrlwytho ‘Llwybr Hanesyddol Pen-bre’ ar ffonau symudol.

Mae hi’n bwysig cofio’r hanes, meddai’r Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.

“Rydym yn hynod ffodus o gael Parc Gwledig Pen-bre yma yn Sir Gaerfyrddin. Gyda’i 500 erw o goetiroedd gogoneddus i’w harchwilio, saith milltir o draeth tywodlyd euraidd a llawer o weithgareddau i’r teulu i gyd eu mwynhau, mae’n ddiwrnod perffaith allan.

“Ond mae mor bwysig ein bod yn cofio hanes y parc a’r holl bobl a fu’n brwydro i achub ein traeth oherwydd, hebddynt, ni fyddai gennym y parc rydym yn ei adnabod a’i garu heddiw.

“Rwy’n falch iawn bod y gofeb hon wedi’i gosod i adrodd yr hanes a’r fuddugoliaeth anhygoel.”