Mae Aelod Seneddol Llafur Cymreig wedi galw ar gwmnïau technoleg a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar ôl manylu ar ei phrofiadau “hynod o annymunol” o gael ei cham-drin ar-lein.

Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar y Mesur Diogelwch Ar-lein, bu Anna McMorrin, sy’n cynrychioli Gogledd Caerdydd, yn trafod graddfa’r gam-drin ar-lein y mae hi, ei theulu, ac Aelodau Seneddol eraill yn ei wynebu.

Fe wnaeth Anna McMorrin alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys trais yn erbyn menywod a merched fel rhan o’r Bil, ond cafodd y diwygiad ei wrthod.

“Fel Aelod Seneddol benywaidd, nid wyf ar fy mhen fy hun yma, ynghyd â’m cydweithwyr, rwyf wedi wynebu camdriniaeth ar-lein, sy’n ymosod arnaf yn bersonol ac yn broffesiynol,” meddai.

“Delweddau’n cael eu hanfon ataf megis rhywun â rhaff o amgylch ei wddf… yn ogystal â nifer o negeseuon, cam-drin gwrth-semitig, gwreig-gasineb (misogyny) tuag ataf fi a’m plant.

“Mae’n peri pryder mawr ac nid yw’n syndod bod un ym mhob pum menyw ledled y wlad hefyd wedi cael eu cam-drin ar-lein.

“A dweud y gwir, byddwn yn dyfalu bod y ffigur hwnnw’n llawer uwch.

“Mae angen i’r camau hyn ddod o fewn deddfwriaeth i sicrhau bod y cwmnïau technoleg yn gweithredu.

“Mae ochr dywyll iawn i’r rhyngrwyd, ac un sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn gwreig-gasineb.

“Mae trais yn erbyn menywod a merched yn epidemig sy’n tyfu’n barhaus, ac mae’n amser iddo ddod i ben.

“Hyd yma, dyw’r Llywodraeth ond wedi cymryd camau bychan gan fethu â mynd i’r afael ag achos sylfaenol y mater.”

Wrth ymateb i benderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi’r diwygiad i gynnwys trais yn erbyn menywod a merched yn y Bil, dywedodd Anna McMorrin ei fod yn “ymddygiad gwarthus”.

“Ni fydd mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched fyth yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac mae’n golygu bod menywod yn colli’u bywydau.”