Cafodd dau Aelod Seneddol eu taflu allan o Dŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 13) ar ôl galw am refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Fe wnaeth y Llefarydd, Syr Lindsay Hoyle, orchymyn bod y pâr o Blaid Alba, Kenny MacAskill (Dwyrain Lothian) a Neale Hanvey (Kirkcaldy a Cowdenbeath), yn gadael y siambr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Ar ddechrau’r sesiwn, roedd modd clywed Kenny MacAskill yn dweud “mae angen refferendwm arnom”, cyn i Aelodau Seneddol eraill ddechrau gweiddi drosto.

Yna gwrthododd eistedd i lawr a pharhau i siarad, gan arwain at rybudd gan Syr Lindsay Hoyle.

“Ni fyddaf yn goddef ymddygiad o’r fath. Os ydych chi am fynd allan, ewch allan nawr,” meddai’r Llefarydd.

“Os ydych chi’n sefyll eto, byddaf yn rhoi gorchymyn i chi fynd allan. Gwnewch eich meddwl i fyny. Caewch eich ceg neu ewch allan.”

Cododd Kenny MacAskill ar ei draed eto, cyn i Neale Hanvey hefyd godi a dechrau siarad.

Fodd bynnag, doedd dim modd deall yr hyn yr oedden nhw’n ddweud wrth i Aelodau Seneddol Ceidwadol weiddi drostynt.

Aeth Syr Lindsay Hoyle ymlaen i enwi’r pâr, sy’n golygu eu bod wedi’u gwahardd o’r Tŷ.

“Neale Hanvey, rydw i nawr yn eich enwi chi a Kenny MacAskill ac yn eich gorchymyn i adael y siambr hon.

“Sarjant, deliwch â nhw.”