Mae cyflwyno rheoliadau ar safonau’r Gymraeg i gyrff iechyd yng Nghymru yn “amserol iawn”, yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price.

Daw hyn ar ôl i Senedd Cymru gymeradwyo set o reoliadau ar safonau’r Gymraeg gyda’r bwriad o sicrhau bod dyletswydd ar fwy o sefydliadau yn y sector iechyd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae safonau’r Gymraeg yn egluro sut y mae’n rhaid i sefydliadau ddefnyddio ac ystyried y Gymraeg, a rhoi gwell triniaeth i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg.

Crëwyd y drefn hon gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ers hynny mae 124 o gyrff cyhoeddus wedi dod o dan y drefn. Mae hawliau felly gan siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud â’r sefydliadau hyn.

Y sefydliadau iechyd yw:

• Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol

• Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

• Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

• Y Cyngor Optegol Cyffredinol

• Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

• Y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol

• Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

• Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

• Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

‘Pŵer i orfodi’r safonau’

Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg bŵer i orfodi ac i sicrhau bod y sefydliadau yn cydymffurfio â’r safonau sydd wedi eu gosod arnynt.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: “Cafodd rheoliadau safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 eu cymeradwyo heddiw yn y Senedd.

“Bydd y rheoliadau hyn yn fy ngalluogi i ddod â chyrff sy’n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol y sector iechyd a’r Awdurdod Safonau Proffesiynol o dan y gyfundrefn safonau.

“Yn sgil y datblygiad hwn bydd y Comisiynydd yn dechrau ar y gwaith o osod safonau ar y sefydliadau dan sylw.

“Bydd gosod safonau ar y sefydliadau hyn yn ehangu’r hawl sydd gan ddefnyddwyr i ddod at y Comisiynydd gyda chŵyn os ydynt yn cael trafferth defnyddio’r Gymraeg.”

‘Amserol iawn’

Yna, wrth siarad â golwg360, dywedodd: “Mae o’n amserol iawn achos oherwydd y cyfnod anodd rydan ni wedi’i gael efo’r pandemig.

“Mi oedd y sector iechyd wedi dod yn rhan o’r safonau jyst cyn y pandemig ac yn amlwg mae hi wedi bod yn anodd i’r byrddau.

“Felly mae’n amserol bod y rhain yn cael eu pasio rŵan oherwydd fe allwn ni weithio gyda’r sector iechyd i gyd i sicrhau eu bod nhw’n cynnwys y Gymraeg ac yn cyflawni eu dyletswyddau i’r Gymraeg.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n bwysig iawn bod y cyrff proffesiynol sy’n rheoleiddio’r sector iechyd yn dod o dan yr un gyfundrefn â’r byrddau maen nhw’n eu rheoleiddio.

“Mae’n bwysig eu bod nhw i gyd yn dilyn yr un safonau.

“Ein dyletswydd ni ydi edrych ar y dyletswyddau sydd yn y rheoliadau ac ymgynghori gyda’r cyrff a dweud: ‘Dyma nhw’r dyletswyddau mae’r Senedd wedi’u pasio, rydyn ni’n meddwl y dylech chi wneud rhain, sut yda chi’n ymateb?’

“Yna, mi fyddan nhw yn gallu dod yn ôl a dweud wrthym ni beth maen nhw’n ei feddwl maen nhw’n gallu ei wneud.”

‘Colli cyfle’

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn “colli cyfle” i wneud gwahaniaeth go iawn ym maes iechyd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith: “Eto, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu peidio herio cyrff rheoleiddio, a hynny ar draul cleifion a staff iechyd a gofal.

“Er bod y Llywodraeth yn arddel egwyddor ‘Y Cynnig Rhagweithiol’ ym maes iechyd, dydy’r Safonau ddim yn adlewyrchu hynny o gwbl.

“Mae’n werth nodi hefyd bod Comisiynydd y Gymraeg a’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi codi nifer o’r un pryderon â ni am fannau gwan a bylchau amlwg yn y Safonau fydd yn golygu nad yw cleifion yn derbyn gwasanaeth yn Gymraeg wrth gael triniaeth. Ond prin fod y Llywodraeth wedi cymryd sylw o hynny.

“Dylai’r safonau hwyluso profiadau defnyddwyr, gan gynnwys aelodau proffesiynol, rhai dan hyfforddiant ac aelodau’r cyhoedd; a dylent fynd i’r afael â holl swyddogaethau cyrff rheoleiddio gofal iechyd.

“Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar gleifion heddiw, ond wrth anwybyddu dylanwad y cyrff rheoleiddio ar gynllunio gweithlu iechyd Cymraeg yng Nghymru, parhau fydd y sefyllfa, a bydd cleifion bregus yn parhau i gael eu hamddifadu rhag derbyn triniaeth yn Gymraeg.”