Byddai’n wych pe bai pob person ifanc yn cael y cyfle i ymweld â chanolfan awyr agored fel Glan-llyn a Llangrannog, meddai Aelod Ceidwadol o’r Senedd.
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi ennill yr hawl i gyflwyno Mesur ei hun yn y Senedd.
Yn sgil hynny, bydd yn mynd â’i Fesur Addysg Awyr Agored drwy’r broses ddeddfwriaethol ac yn trio cael cefnogaeth drawsbleidiol i’w wneud yn ddeddf.
Pwrpas y Mesur fyddai sicrhau bod cynghorau yn darparu o leiaf wythnos o addysg awyr agored preswyl i bobol ifanc yn ystod eu hamser yn yr ysgol, gan ganiatáu iddyn nhw ymweld â chanolfannau fel Glan-llyn neu Llangrannog.
‘Amseru’n bwysicach nag erioed’
Y bwriad yw sicrhau bod darparu cyfleoedd addysg awyr agored yn gyfrifoldeb i ysgolion, yn hytrach na rhieni, ac felly’n cael gwared ar rwystrau i deuluoedd ar incymau isel.
“Dw i wrth fy modd â’r cyfle i fynd â fy Mesur yn ei flaen, a dw i’n gobeithio perswadio pobol o bob plaid i gefnogi fy nghynnig,” meddai Sam Rowlands, sy’n llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig hefyd.
“Pe bai’r Mesur yn dod yn gyfraith, byddai gan bobol ifanc gyfle i gael anturiaethau gwych, a dod yn oedolion ifanc mwy hyderus, gan fod addysg awyr agored preswyl yn cael ei gynnig iddyn nhw.
“Mae’r amseru yn bwysicach nag erioed, gyda nifer o bobol ifanc wedi bod yn ynysig am gyfnod mor hir yn sgil y pandemig, ac mae eu llesiant meddyliol a chorfforol wedi cael ei effeithio. Gellir eu cefnogi, i raddau helaeth, gyda gweithgareddau awyr agored.
“Byddai’n wych pe bai pob person ifanc yn cael y cyfle i ymweld â llefydd fel Glan-llyn a Llangrannog, gan ddysgu sgiliau tîm ac arwain tra’n gwerthfawrogi’r amgylchedd anhygoel sydd ar stepen ein drws.
“Dw i’n edrych ymlaen at y misoedd nesaf a rhoi’r achos o flaen Llywodraeth Cymru.”