Mae Heddlu Gogledd Cymru’n dal i geisio ffeindio pwy oedd dyn a fu farw mewn tân yn Y Rhyl neithiwr.
Maen nhw’ a’r Gwasanaeth Tân hefyd yn ceisio gweld beth oedd achos y tân mewn siop oleuadau trydan ger Ffordd y Dyffryn.
Mae papur lleol wedi awgrymu mai perchennog y siop oedd yno – roedd perchnogion busnesau eraill yn dweud ei fod yn dal i fod yn yr adeilad pan alwyd y gwasanaethau brys tua phump o’r gloch neithiwr.
Roedd pump injan dân wedi gorfod brwydro’r fflamau am rai oriau a bu’n rhaid symud pobol o adeiladau cyfagos.
Dyw’r heddlu ddim yn credu bod y tân yn un amheus ond maen nhw’n dweud ei fod “heb esboniad” ar hyn o bryd.