Arglwydd Woolf (Raimond Spekking CCA4.0)
Mae un o gyn-brif farnwyr Cymru a Lloegr wedi galw am roi diwedd ar ddedfryd oes ar gyfer pob math o lofruddiaeth.

Mae gormod o ddedfrydau oes yn cael eu rhoi gan lysoedd, meddai’r Arglwydd Ustus Woolf, gan alw am ryddid i farnwyr wahaniaethu rhwng un llofruddiaeth a’r llall.

Mae rhai llofruddiaethau’n llai difrifol nag eraill, meddai’r cyn Arglwydd Brif Ustus wrth siarad ar y rhaglen newyddion radio World at One.

“Mae’r cyfnodau y mae llofruddion yn eu treulio yn y carchar wedi cynyddu’n sylweddol iawn tros yr 20 mlynedd diwetha’,” meddai.

“Mae’n resyn ein bod yn rhoi dedfrydau oes mor am lag yr ydyn ni. Byddai’n llawer gwell gen i weld dim dedfrydau oes gorfodol.”

Enghreifftiau

Ymhlith yr enghreifftiau a roddodd yr Arglwydd Woolf roedd lladd pan oedd rhywun wedi dod i ben ei dennyn oherwydd amgylchiadau, neu berson oedd yn taro rhywun arall  heb fwriadu ei ladd a hwnnw’n mar war ôl taro’i ben yn y ddaear.

“Ar hyn o bryd, rhaid i hynny gael ei drin gyda dedfryd oes,” meddai. “Dw i’n credu bod angen i ni fod yn llawer mwy manwl yn ein dedfrydu.”