O wefan yr heddlu
Mae pobol Caernarfon wedi cael rhybudd i fod yn ofalus ar ôl dau ladrad tebyg o dai yn ystod y dyddiau diwetha’.

Roedd arian, bagiau llaw, eiddo personol a goriadau wedi cael eu dwyn, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd un lladrad wedi digwydd dros nos Sul a’r llall yn oriau mân Noswyl Nadolig.

Yn y ddau achos, meddai’r Ditectif Gwnstabl Ceri Wasiuk, roedd y lleidr neu ladron wedi cymryd mantais o ddrysau heb eu cloi.

‘Gwyliadwrus’

“Mae’n werth atgoffa pob operchennog tŷ i fod yn wyliadwrus wastad,” meddai.

Mae’r heddlu wedi gofyn am wybodaeth am unrhyw un oedd yn ymddwyn yn ddrwgdybus – yn ardal Twtil nos Sul a Stryd Marcus neithiwr.

Fe ddylai pobol sydd â gwybodaeth alw Taclo’r Tacle ar 101 neu ffonio 0800 555 111 a chrybwyll RC15194267.