Tim Peake (Llun:PA)
Fe fydd rhywbeth sy’n edrych fel seren newydd i’w gweld yn yr awyr uwchben Cymru fin nos Noswyl Nadolig.
Ond nid seren fydd hi mewn gwirionedd, wrth i’r Orsaf Ofod Ryngwladol deithio ar draws yr awyr.
Fe fydd modd ei gweld o Gymru toc wedi’r machlud, yn isel yn yr awyr ac yn croesi o’r Gorllewin i’r Dwyrain. Dim ond am ychydig funudau y bydd hi i’w gweld.
Ar yr orsaf, mae’r gofodwr Prydeinig cyntaf i ymuno a’r orsaf ofod, Tim Peake a gyichwynnodd ar ei daith i’r gofod yr wythnos ddiwethaf.
‘Fel seren neu awyren’
Yn ôl arbenigwyr o’r Gymdeithas dros fe fydd yr orsaf yn edrych fel seren fwy disglair na’r un arall.
“Gallech chi feddwl mai awyren fydd hi i ddechrau, ond byddech chi’n clywed sŵn injan yr awyren pe bai mor agos â hynny, ac wrth gwrs, mae’r orsaf ofod yn ddistaw,” meddai Robin Scagell, is-lywydd y gymdeithas.
Mae’r orsaf ofod yn cylchdroi o amgylch y ddaear 15 gwaith y dydd ond dydy hi ddim i’w gweld bob amser.
Fe fydd yn teithio’n isel heno gan roi mwy o siawns i bobol ei gweld.