Tabledi (lluniau cyhoeddusrwydd)
Gyda’r disgwyl y bydd mwy o blant nag erioed yn cael anrhegion digidol y Nadolig hwn, mae elusen wedi rhybuddio bod angen i rieni sicrhau bod eu plant yn ddiogel.
Yn ôl ymchwil gan gwmni technoleg O2 a’r elusen plant NSPCC fe fydd wyth o bob deg rhiant yn rhoi teclynnau megis tabled neu gemau cyfrifiadurol yn anrhegion i’w plant eleni, a dros yr hanner yn mynd i blant pedair oed neu lai.
Ond doedd dros hanner y rhieni ddim yn bwriadu siarad â’u plant am ddiogelwch ar y We a’r rhan fwyaf ddim yn bwriadu gosod trefn ‘rheoli gan rieni’ ar y teclynnau.
Peryglon gwahanol
Yn ôl yr NSPCC fe allai plant a phobol ifanc wynebu pob math o beryglon wrth ddefnyddio’r We os nad ydyn nhw’ cael eu goruchwylio neu’n ymwybodol o’r risg.
Gallai hynny gynnwys pobol ddiarth yn ceisio cysylltu â nhw, yn ogystal â phroblemau fel seibr-fwlio, gwylio pornograffi a secstio.
“Cyn i chi roi beic newydd i’ch plentyn fe fyddech chi’n gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le, ac felly rydyn ni eisiau annog rhieni i wneud yr un peth â thabled neu ffôn newydd eu plant,” meddai prif weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless.
“Unwaith y mae’r dulliau ‘rheoli gan rieni’ a’r gosodiadau preifatrwydd yn eu lle, helpwch i’w dysgu nhw sut i’w ddefnyddio. “Pori drwy bethau gyda’ch gilydd a sgwrsio am bethau yn rheolaidd ac yn agored yw’r ffordd orau o’u cadw’n saff ar-lein.”