Mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn, dau o gynlluniau Menter Môn, wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ehangu eu prosiect ‘buddsoddiad mewnol’ i sawl ardal newydd ar draws Gwynedd a Môn.
Yn 2015, cafodd ‘Be Nesa Llŷn’ ei sefydlu fel cronfa benthyciadau di-log i bobol ifanc Pen Llŷn gychwyn neu ddatblygu busnes neu fenter gymdeithasol yn yr ardal.
Buddsoddodd 11 o bobol fusnes Llŷn eu harian yn y gronfa, sydd erbyn hyn wedi cael ei ailgylchu drosodd a throsodd, nes bod 15 busnes a menter gymdeithasol wedi derbyn gwerth dros £70,000 o fenthyciadau di-log ganddyn nhw.
Roedd y benthyciadau hyd at £5,000 yn helpu tuag at brynu offer, costau hyfforddiant, marchnata a llogi gofod i weithio.
Becws Islyn a busnesau eraill
Un sydd wedi buddsoddi yn y gronfa yw Geraint Jones o Becws Islyn.
“‘Da ni isio trio gwneud gymaint â gallwn ni i’r gymuned a chadw pobol ifanc yma…” meddai.
“Sa ni’n cael mwy o bobol ifanc yn dechrau busnesau eu hunain yma, bysa mwy o arian yn aros yn y pentrefi wedyn.
“Mae’n amser da i bobol fusnes rhoi arian mewn a helpu pobol ifanc i ddechrau.”
Mae’r cynllun wedi galluogi nifer o bobol ar draws Llŷn i gychwyn busnes er mwyn gallu byw a gweithio yn eu milltir sgwâr, gan gynnwys Tanya Whitebits, Wyau Llŷn a Tylino.
“Mae’r benthyciad wedi helpu yn fawr iawn hefo’r busnes,” meddai Rebecca Hughes o Tylino.
“Mae o wedi helpu fi ddatblygu’r busnes o ran refeniw… dwi’n gobeithio wneith o ddatblygu a rhoi cyfle i rywun arall lleol ddechrau busnes eu hun hefyd.”
Mentrau cymdeithasol
Mae’r gronfa ar gael i fentrau cymdeithasol hefyd.
Defnyddiodd Clwb Hoci Pwllheli gyllid o’r gronfa i brynu llifoleuadau ar gyfer y cae.
“Roedd y broses yn ofnadwy o hawdd, a gathon ni lot o gyngor,” meddai’r clwb.
“Heb yr arian yna, fysen ni ddim hefo’r llifoleuadau yma heddiw – ac mae hynny wedi galluogi ni i fwcio’r cae allan.
“Mae yna lot o bethau’n mynd ymlaen rŵan a fyddai’r holl bobol ddim yn cael mynediad i’r cae yma heb y gefnogaeth yna.”
Galwad am geisiadau
Yn dilyn llwyddiant cronfa Be Nesa Llŷn a nifer o ymholiadau o’r tu hwnt i’r ardal, mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn am ariannu a sefydlu nifer o gronfeydd newydd sbon i gymunedau ar draws y ddwy sir.
Mae galwad nawr i gymunedau eraill yng Ngwynedd a chymunedau Môn wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun.
Mae ffurflen gais ar gael yma i geisio, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â betsan@mentermon.com cyn Gorffennaf 11.
Cafodd cefnogaeth ariannol ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig ei darparu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.