Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd profion yn parhau i fod ar gael i aelodau’r cyhoedd sy’n dangos symptomau Covid-19.

Bydd cartrefi gofal hefyd yn parhau i gael profion am ddim i ymwelwyr, tra bydd profion hefyd ar gael am ddim i bobol sy’n ymweld â rhywun sy’n gymwys i gael triniaethau newydd ar gyfer Covid-19.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd taliadau hunanynysu o £500 yn dod i ben ar Fehefin 30.

Fodd bynnag, mae’r Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn cael ei ymestyn tan Awst 31.

Mae Eluned Morgan hefyd wedi cyhoeddi y bydd y profion canlynol yn parhau i fod ar gael:

  • Profion LFD a PCR ar gyfer y rhai sy’n gymwys i gael triniaethau ar gyfer COVID-19
  • Profion PCR ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal a charcharorion symptomatig
  • Profion PCR ac LFD o dan y fframwaith profi cleifion ac yn unol â chyngor clinigol, gan gynnwys cleifion ysbyty cyn iddynt gael llawdriniaeth a phreswylwyr cartrefi gofal sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod fel claf mewnol yn yr ysbyty
  • Profion LFD ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol symptomatig
  • Profion LFD ddwywaith yr wythnos ar gyfer cynnal profion asymptomatig i staff iechyd a gofal cymdeithasol

‘Nid yw Covid wedi diflannu’

“Mae profion wedi bod yn arf effeithiol i dorri’r gadwyn drosglwyddo, ac oherwydd y cynnydd mewn achosion mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gynnal profion er mwyn diogelu’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas,” meddai Eluned Morgan.

“Fel y gwelsom o’r blaen, gall Covid newid yn gyflym, ac rwy’n cyhoeddi’r estyniad hwn mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid, a’r amrywiolion newydd sy’n peri pryder.

“Rwy’n gofyn hefyd i bobol gymryd camau diogelu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned, drwy wisgo masgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal, aros gartref os byddwch yn cael prawf positif, a manteisio ar y cynnig i gael brechlyn.

“Rydym yn gwybod mai’r brechlyn yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun, ac rwy’n annog y rheini sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn i fynd i’w gael os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes.

“Mae’r pigiad atgyfnerthu ar gael tan Fehefin 30.

“Nid yw Covid wedi diflannu, er ein bod yn dysgu byw’n ddiogel gydag e.

“Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac, fel yr ydym wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i Ddiogelu Cymru.”