Jordan Miers
Mae nofwyr tanddwr yn chwilio Afon Tawe am ddyn 21 oed sydd ar goll.
Cafodd yr heddlu adroddiadau bnawn dydd Sul bod Jordan Miers ar goll ar ôl iddo fethu a dychwelyd adref ar ôl noson allan gyda’i gyd-weithwyr yn Abertawe nos Sadwrn.
Credir ei fod wedi ceisio cerdded adref i Fonymaen ar hyd yr afon nos Sadwrn.
Er bod Heddlu’r De eisoes wedi chwilio’r ardal, dywedodd llefarydd bod timau gydag adnoddau arbenigol yn archwilio’r afon heddiw.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd Jordan Miers ar ol 10yh nos Sadwrn i gysylltu a nhw ar 101.