Dros gyfnod yr ŵyl, mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ei ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o achosion o gam-drin domestig yn yr ardal.
Yn ôl yr heddlu, mae’n broblem ddifrifol sy’n gyffredin yn ein cymunedau, er ei fod yn rhywbeth sy’n aml yn cael ei guddio oddi wrth aelodau’r teulu a ffrindiau.
Mae cam-drin domestig yn unrhyw fath o drais rhwng partneriaid neu gynbartneriaid mewn perthynas a gallai gynnwys trais corfforol, rhywiol, emosiynol neu ariannol, bygythiadau neu ddifrod.
Pwrpas yr ymgyrch yw annog pobol sy’n dioddef o gam-drin domestig neu sy’n gwybod am achos o’r fath i roi gwybod i’r heddlu, gan ddweud bod hynny yn gallu achub bywydau.
Tair blynedd yn ôl, bu farw’r fam i dri, Charmaine Macmuiris, 37 oed, ar ôl cael ei thrywanu gan ei chariad yn ei fflat yng Nghaerfyrddin ar noswyl Nadolig.
Ac ar gyfartaledd, mae dwy ferch yr wythnos yn cael eu lladd gan ei phartner neu ei chynbartner yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Er ei fod yn effeithio menywod gan amlaf, gall dynion fod yn ddioddefwyr ac mae hefyd yn effeithio cyplau o’r un rhyw.
Yn ystod y flwyddyn 2014/15, roedd 6,086 o achosion o gam-drin domestig yng Nghymru wedi cael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron.
O’r achosion hyn, roedd 737 yn ardal Dyfed Powys, 964 yng Ngwent, 1,315 yng Ngogledd Cymru a 3,063 yn Ne Cymru.
“Ein prif flaenoriaeth yw diogelu dioddefwyr ac unrhyw blant i wneud yn siŵr nad ydyn nhw mewn perygl,” meddai’r Prif Arolygydd Ditectif dros dro, Steve Davies o Heddlu Dyfed Powys.
“Fel sefydliad ac ynghyd â’n Hasiantaethau Partner, rydym am roi’r hyder i ddioddefwyr i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath fel ein bod yn gallu delio â’r peryglon, cefnogi’r dioddefwr a dwyn y person i gyfrif.
“Gall ein swyddogion arbenigol drefnu nifer o fesurau er mwyn sicrhau bod y dioddefwr ac unrhyw blant yn ddiogel.”
Gellir cysylltu â Swyddogion Cam-drin Domestig dros y ffôn ar y rhif 101, lle maen nhw’n gallu cynnig help dros y ffôn, drwy lythyr neu drwy ymweld â dioddefwr yn rhywle.
I gael rhagor o wasanaethau sy’n cynnig cymorth, gallwch ffonio 0808 80 10 800 neu ewch i’r wefan.