Roedd economi’r DU wedi tyfu llai na’r disgwyl yn 2015 wrth i ffigurau swyddogol ddatgelu bod y rhagolygon twf wedi cael eu hadolygu, ac wedi gostwng ar gyfer yr ail a’r trydydd chwarter.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn datgelu bod twf yn 0.4% yn y tri mis hyd at ddiwedd mis Medi – gostyngiad o’r rhagolwg blaenorol o 0.5%.

Cafodd y rhagolygon twf hefyd eu gostwng i 0.5% ar gyfer y chwarter hyd at ddiwedd mis Mehefin.