Fe all y diwydiant amaethyddol wynebu newidiadau sylweddol dros y blynyddoedd nesaf yn sgil y cytundeb newid hinsawdd ryngwladol diweddar, yn ôl un academydd.
Dywedodd Penri James, sydd yn ddarlithydd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, y byddai disgwyl i ffermwyr chwarae eu rhan.
Fel rhan o’r cytundeb mae disgwyl i wledydd y byd geisio lleihau’r nwyon tŷ gwydr maen nhw’n ei gynhyrchu a allai fod yn cyfrannu at gynhesu byd eang.
Ac yn ôl yr academydd, mae’r ffaith bod y diwydiant amaeth – a gwartheg yn benodol – yn gyfrifol am lawer o’r nwyon hynny yn golygu ei bod hi’n anorfod y bydd y sector yn gweld newidiadau.
‘Gwartheg yn gyfrifol’
Fe esboniodd Penri James y bydd Cymru’n enwedig yn cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau gan fod ffermio gwartheg yn rhan mor fawr o’r diwydiant.
“Mae dylanwad y cytundeb yma’n mynd i fod yn eithaf sylweddol,” meddai Penri James wrth siarad â’r Post Cyntaf y bore ma.
“Mae hanner y methan sy’n cael ei gynhyrchu fel nwy greenhouse ym Mhrydain yn dod o amaethyddiaeth, ond mae amaethyddiaeth yn cyfrannu llai na 1% o’n GDP ni.
“Mae targed wedi cael ei osod i godi tymheredd o ddim mwy na 1.5 gradd Celsius, ond mae gwyddonwyr wedi dweud nad yw hi’n bosib gwneud hynny heb amaethyddiaeth.”
Newid i gymorthdaliadau
Yn ôl y darlithydd mae’n debygol y bydd y pecyn nesaf o gymorthdaliadau amaethyddol o’r Undeb Ewropeaidd yn ystyried y targedau newid hinsawdd newydd.
“Mae’n anorfod y bydd e’n cael ei gynnwys fel rhan o’r pecyn amaethyddol newydd, ac fe fydd y cymorthdaliadau yn cael eu dosbarthu … i adlewyrchu hynny,” meddai Penri James.
Wrth ymateb fe ddywedodd un o swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru bod y diwydiant eisoes wedi dechrau addasu ym maes newid hinsawdd.
Ychwanegodd cyn-Weinidog Amaeth Llywodraeth Cymru Alun Davies ar y Post Cyntaf y byddai disgwyl i’r diwydiant addasu a “bod yn fwy cynaliadwy” beth bynnag oedd canlyniadau’r gynhadledd newid hinsawdd.