Mae llywydd undeb amaethwyr yr NFU wedi dweud ei fod yn amau a yw Llywodraeth Cymru yn rhannu “gweledigaeth” amaethwyr ar gyfer y sector.
Yn ei neges Nadolig a Blwyddyn Newydd i amaethwyr, awgrymodd Stephen James nad oedd taliadau’r llywodraeth yn darparu cefnogaeth deg i ffermwyr ar draws y sector, a bod rhai penderfyniadau yn cael eu gwneud heb ddigon o dystiolaeth i’w cefnogi.
Mynnodd y llywydd hefyd mai’r unig ffordd o ddelio’n effeithiol â phroblem TB mewn gwartheg fyddai difa’r afiechyd o fewn anifeiliaid gwyllt yn llwyr.
Ychwanegodd Stephen James y byddai etholiadau Cynulliad 2016 yn gyfle i amaethwyr godi llais a cheisio dylanwadu ar wleidyddion.
Prisiau’n gostwng
Yn ei neges i ffermwyr fe gyfaddefodd llywydd yr NFU ei bod hi wedi bod yn “flwyddyn anodd” i amaethyddiaeth yng Nghymru gyda chwymp prisiau mewn sawl sector fel llaeth a chig oen.
Mae’r undebau amaethyddol hefyd wedi anghytuno â Llywodraeth Cymru eleni am y ffordd y mae arian Cynllun Datblygiad Cefn Gwlad Cymru yn cael ei ddosbarthu.
“Dydyn ni ddim wedi’n hargyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n rhannu ein gweledigaeth,” meddai Stephen James.
“Mae gormod o ffocws ar godi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i’r ychydig yn hytrach na’r nifer.
“Yr unig ffordd y mae modd creu’r newid trawsnewidiol y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yw os yw’r RDP yn darparu cefnogaeth real ac ymarferol i filoedd o ffermwyr Cymreig. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru wneud defnydd llawn o’r pwerau sydd ganddi.”
Mynd i’r afael a TB
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae cynnydd o 25% wedi bod yn nifer y gwartheg sydd wedi cael eu difa oherwydd afiechyd TB, ac yn ôl yr NFU mae’n bryd i wleidyddion ddelio o ddifrif â’r mater.
“TB mewn gwartheg yw un o’r bygythiadau mwyaf i’n gyrroedd ni a dyw unrhyw gynllun difa sydd ddim yn derbyn bod rhaid cael gwared â’r afiechyd o fewn bywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg ddim gwerth ei halen,” meddai Stephen James.
“All gwleidyddion ddim cuddio y tu ôl i frechu moch daear fel y ffordd maen nhw’n delio â bywyd gwyllt, ac mae’n rhaid iddyn nhw ei gwneud hi’n glir beth yw eu cynlluniau nhw i ddelio â’r peth.”