Mae ymgyrchydd blaenllaw dros y Gymraeg wedi beirniadu sylwadau cyn-gomisiynydd S4C y dylai is-deitlau Saesneg ymddangos yn awtomatig ar raglenni’r sianel.
Mae Seimon Brooks wedi dweud bod awgrym Tweli Griffiths, cyn-gomisiynydd ffeithiol y sianel, yn “lol lwyr” ac y byddai cael is-deitlau ar bob rhaglen yn “difetha” rhaglenni S4C i wylwyr Cymraeg.
“Mae’n anghyfrifol bod Tweli yn gwneud y sylwadau ‘ma rŵan. Cyllid S4C sy’n cael ei thrafod ar hyn o bryd ac rydym ni angen undod , ‘da ni ddim isio pobol i redeg ar ôl sgwarnogod ac yn creu rhyw distractions felly,” meddai wrth golwg360.
“Mae gennym ni is-deitlau dewisol ar gael beth bynnag ar y sianel, dyna i gyd mae gwylwyr di-Gymraeg yn gorfod ei wneud yw gwasgu’r botwm coch.
“Ydyn ni wir yn meddwl bod pobol ifanc yn mynd i wylio sianel lle mae ‘na is-deitlau gwyn, mawr dros y sgrin?”
Denu rhagor o wylwyr di-Gymraeg i S4C?
Yn ôl Tweli Griffiths, sydd hefyd wedi treulio dros 30 mlynedd fel newyddiadurwr, byddai cael is-deitlau awtomatig yn denu rhagor o siaradwyr di-Gymraeg i wylio S4C ond wfftio hyn wna Seimon Brooks.
“Yr hyn mae Tweli yn ei awgrymu yw symud oddi ar hawl Cymry Cymraeg i wylio rhaglenni Cymraeg yn eu hiaith eu hunain. Does gennym ni ddim sianel Gymraeg wedyn, sianel Saesneg efo Cymraeg yn y cefndir, dyna beth sydd gennym ni wedyn.”
Yn ôl yr academydd, mae’r syniad o ddwyieithrwydd yng Nghymru yn mynd yn rhy bell ac y byddai newid S4C i fod yn ‘fwy dwyieithog’ yn arwain at lai o siaradwyr.
“Neith bobol ddim siarad iaith os nad oes ganddi ryw swyddogaeth,” meddai.
Dywedodd y byddai Cymry di-Gymraeg sy’n gefnogol i’r iaith yn cael “ofn” o gael is-deitlau awtomatig a bod y rhai sy’n awgrymu hyn, “o bosib” ond yn meddwl am bobol dros y ffin.
“O ddifrif calon, ydyn nhw’n mynd i redeg S4C er hwylustod pobol yn Hull a Manceinion a Leeds ar draul anghenion gwylwyr yng Nghymru?”
‘Creu gofod uniaith’
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi gwrthod yr awgrym gan ddweud bod S4C yn “creu gofod uniaith, lle gall ffynnu.”
“Mae’n bwysig i siaradwyr yr iaith ynghyd a phobl nad sy’n ei siarad, i raglenni gynnig y cyfle am brofiad uniaith Gymraeg. Yn y gofodau lle mae’r iaith leiafrifol yn gallu cynnig profiad unigryw, mae modd iddi ffynnu,” meddai Curon Davies, o grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith.
“Mae Gaidhlig TV, sy’n darlledu drwy Aeleg yr Alban ar BBC Alba, wedi gorfod cyfiawnhau peidio rhoi is-deitlau Saesneg ar eu rhaglenni nhw, ac wedi dadlau mai un o brif resymau bodolaeth y sianel honno yw creu gofod uniaith. I’r un pwrpas y sefydlwyd S4C.”
‘Syniadau diddorol’ Tweli Griffiths
Wrth ymateb i’r awgrym dywedodd Rachel Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C: “Nid ydym wedi derbyn adborth mai isdeitlau awtomatig ar y sgrin yw dymuniad y gynulleidfa, ac felly nid yw’n fwriad gennym ar hyn o bryd i wneud hyn.
“Yn sicr, mae gan Tweli Griffiths syniadau diddorol, ond byddai angen ymchwilio i’r dechnoleg ac i’r gost ychwanegol o ddarparu gwasanaeth o’r math yma.
“Mae S4C yn annog dysgwyr a gwylwyr di-gymraeg i wylio rhaglenni’r sianel, ac yn ystod y flwyddyn 2014-15, roedd isdeitlau Saesneg ar gael ar 78.05% o’n rhaglenni, dim ond i chi eu troi ymlaen ar eich teledu neu wrth wylio ar alw ar-lein.”