Yn dilyn traddodiad y
blynyddoedd diwethaf, mae Uwch-golygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar wedi mynd ati i restru ei 10 cân orau o’r flwyddyn ar gyfer Golwg360. Y Reu oedd rhif 1 rhestr 2014, yr anthem ‘Elin’ gan Yr Eira oedd rhif 1 2013, tra bod Candelas wedi cyrraedd y brig gyda ‘Symud Ymlaen’ yn 2012. Tybed pwy fydd ei ddewis ar gyfer 2015?

Mae 2015 wedi bod yn flwyddyn ddifyr arall o ran cynnyrch cerddoriaeth Cymraeg cyfoes. Yn wahanol i 2014, ble roedd 26 o albyms yn gymwys ar gyfer categori ‘Record Hir Orau’ Gwobrau’r Selar, doedd 2015 ddim yn flwyddyn gynhyrchiol iawn o ran recordiau hir. Wedi dweud hynny, roedd hi’n flwyddyn debyg i 2014 yn yr ystyr nad ydan ni wedi gweld cynnyrch newydd gan nifer o’r bandiau amlycaf fel Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas tra bod Yr Ods wedi rhyddhau dwy gân fel sengl ‘dwbl A’ yn unig. Sŵnami ydy’r eithriad gyda’i halbwm cyntaf ardderchog.

Efallai nad ydy hynny’n ddrwg o beth cofiwch, gyda chyfle i rai o’r bandiau ac artistiaid eraill hawlio’r sylw a gwneud eu marc. Mae’r ffaith ei bod hi wedi bod yn anodd iawn rhoi trefn blaenoriaeth ar y rhestr isod, a dewis rhif 1 yn arbennig, wedi bod yn her yn adrodd cyfrolau am safon uchel ac amrywiaeth cynnyrch y flwyddyn.

Er nad oes caneuon oddi arnyn nhw ar y rhestr isod, dwi am grybwyll dau albwm a rhyddhawyd yn hwyr yn y flwyddyn sef Tir a Golau gan Plu a Porwr Trallod gan Datblygu. Mae caneuon Plu’n rai sy’n tyfu arnoch chi, a dwi am gyfaddef nad ydw i wedi gallu gwrando digon ar y casgliad eto. Er nad ydw i wedi cynnwys trac gan Datblygu, mae’n wych gweld y grŵp arloesol yma’n ôl gyda record newydd ac roedd Je Suis David yn agos iawn at gyrraedd y rhestr yma.

Dyma’r 10 eleni felly…

10. Fioled – Sŵnami

Roedd hi’n hen bryd i ni weld record hir gan Sŵnami, ac fe ddaeth honno i’r golwg erbyn y ‘Steddfod ym mis Awst. Roedd eu EP, Du a Gwyn, yn gasgliad o senglau ond mae’r albwm yn fwy o gyfanwaith. Wedi dweud hynny, mae cwpl o draciau’n neidio allan, fel ‘Trwmgwsg’ a hon, ‘Fioled’ sy’n adlewyrchu eu cyfeiriad mwy ewro-popaidd diweddar.

9. Heneiddio – Uumar

Er bod steil y grŵp yn wahanol, does dim syndod bod sbin-off Y Bandana yn gallu sgwennu tiwn fachog. Mae hon llawn cystal ag unrhyw beth gan Y Bandana, gyda drymiau a bas cryf yn gyrru’r tempo uchel o’r dechrau a chytgan gofiadwy.

8. Halen – Rogue Jones

Dwi’n hoff iawn o’r ddeuawd cwyrci bach yma, ac roedd hi’n dda gweld rhyddhau eu halbwm VU yn dod allan ar label Blinc ym mis Tachwedd. Dyma fy hoff gân o’r casgliad, gydag alaw syml neis ond un sy’n aros yn y cof.

7. Gwybod bod ‘na fory – Gildas (gyda Hanna Morgan)

Dwi ‘chydig bach fel armadillo…yn galed ar yr wyneb ond yn un digon meddal oddi-tano ac yn hoffi rhyw faled fach nawr ac yn y man. Dwi’n hoff iawn o steil chwarae gitâr Arwel ‘Gildas’ Lloyd ac mae ei fersiwn o gân wreiddiol Linda Griffiths  yn wirioneddol hyfryd, gyda lleisiau Arwel a Hanna Morgan yn plethu’n berffaith.

6. Resbiradaeth – Cpt Smith

Roedd tipyn o sisial siarad dros y gwanwyn am y grŵp ifanc diweddaraf cyffrous o’r Gorllewin – ‘Y Ffug’ newydd. Pan ryddhawyd ‘Resbiradaeth’ fel sengl ym mis Mai fe gadarnhawyd potensial enfawr Cpt Smith gyda chlamp o gân roc flin gyda melodi gyfoethog a riff gofiadwy. Gwyliwch rhain yn 2016.

5. Mhen i’n Troi – Y Reu

Dyma grŵp sydd wedi mireinio eu steil unigryw sy’n plethu roc gyda sŵn electroneg. Dwi’n tueddu’n fwy at yr ochr electroneg, a dyna pam bod ‘Haf’ ar frig y rhestr yma llynedd. Mae hon o EP cyntaf y grŵp, Hadyn, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf yn dipyn o diwn hefyd.

4. Aberystwyth yn y Glaw – Ysgol Sul

Mae ‘na fersiwn demo o hon wedi bod o gwmpas ers i Ysgol Sul ddod i’r amlwg yn haf 2014, ond fe’i rhyddhawyd yn swyddogol fel sengl ym mis Chwefror eleni. Clasur o gân sy’n crynhoi sŵn low-fi unigryw y bois o Landeilo, ac mae’r geiriau’n sicr yn adlewyrchiad teg o Aber dros yr wythnosau diwethaf.

3. Melynllyn – Anelog

Grŵp newydd arall ddaeth i amlygrwydd yn 2015 gyda’u cerddoriaeth electronig freuddwydiol o Ddyffryn Clwyd. ‘Melynllyn’ efallai ydy’r trac mwyaf hygyrch ganddyn nhw hyd yma, ac mae’r math o gân y gallech chi wrando arni drosodd a throsodd gan deimlo’n gwbl hapus eich byd.

2. Ble’r Aeth yr Haul – Yr Ods

Mae ‘na ddadl dros ail drac y sengl ddwbl A yma, ‘Hiroes i’r Drefn’, a ryddhawyd ar feinyl yn yr hydref, ond y gyntaf o’r ddwy gân i’w rhyddhau’n ddigidol  i ddechrau ydy fy ffefryn o’r ddwy. Classic Yr Ods – cân bop dda gyda phenillion sy’n adeiladu at grescendo newid cyweiriol y gytgan.

1. Ti a Dy Ffordd – Breichiau Hir

Dyma chi fand sydd ddim yn cael hanner digon o sylw yn fy marn i, a dwi’n methu deall pam. O’r eiliad mae’r canwr, Steffan Dafydd, yn agor ei geg ar y trac yma mae’n hoelio eich sylw ac mae’n un o’r unig ganeuon eleni sy’n dod ag ias i fy nghefn pob tro gyda’i chymysgedd o dristwch a dicter. Mae’r caneuon ar y rhestr yma i gyd wedi dal fy sylw mewn gwahanol ffyrdd eleni, ond dyma’r gân sydd wastad yn gwneud i mi stopio be bynnag dwi’n gwneud ar y pryd pan ddaw ar y radio, a gwrando…ac mae hynny’n beth prin.

Mae modd i chi wrando ar y caneuon yn eu trefn ar y rhestr chwarae Spotify yma (heblaw ‘Melynllyn’ sydd ddim ar Spotify).

Anghytuno â’r dewis isod? Gadewch i ni glywed eich barn yn y blwch sylwadau isod.