Lora Lewis
Lora Lewis sydd yn adolygu pennod olaf ond un y gyfres wrth i ni ddod yn agosach at ddatrys dirgelwch llofrudd Simon – RHYBUDD: Peidiwch a darllen ymhellach os nad ydych am wybod beth sy’n digwydd …
Ym mhennod olaf ond un o’r gyfres, fe ‘nes i benderfynu efallai mai hon ydy’r bennod orau hyd yma (er mod i wedi dweud hynny sawl tro bellach).
Ro’n i’n crynu o’r eiliad cyntaf, yn ofni gweld Martin â’i lygaid anghynnes yn syllu arna’ i drwy’r sgrîn, ac yn cydymdeimlo ag ymdrechion Helen wrth geisio helpu ei gŵr.
Heb os nac oni bai, dyma’r gyfres orau sydd wedi ymddangos ar S4C eleni, ac ers sawl blynedd bellach – mae 35 Diwrnod yn cyrraedd yr uchafion, a ‘dw i’n gweddïo am gyfres arall.
Sinistr a thywyll
Os ydych chi’n un sydd â stumog gwan, peidiwch â gwylio’r bennod hon.
Dyma un o’r golygfeydd mwyaf erchyll i mi ei gwylio erioed ar S4C ‘dw i’n siŵr, ond mae’n gam ymlaen i’r sianel hefyd wrth i S4C gyflwyno drama sydd yn gallu cystadlu gyda’r cynnwys ar sianeli eraill.
Pwy sydd angen Hollyoaks ar Sianel 4, neu farathon Breaking Bad pan mae deunydd fel hyn mewn drama Gymraeg?
Dyma symud y stori ymlaen unwaith eto, gyda marwolaeth Reg yn croesi enw arall oddi ar restr y cyhoedd. Yn sgil ffrae rhyngddo ef â Charlie, mae Reg yn gweld diwedd ei fywyd yng nghartref crand ei bartner, Martin.
Pan ddaeth ef o hyd iddo, ro’n i’n meddwl ein bod ni o’r diwedd am gael gweld ochr cariadus, annwyl i’r cymeriad hyll, anghynnes ond, ro’n i’n fwy nag anghywir.
Yn hytrach na galw’r heddlu a chwilio am help, penderfyniad Martin oedd mynd i agor ei ddrôr teganau a thorri corff Reg yn ddarnau mân. Ceg agored. (Ymarfer at y twrci, ‘nabod Martin).
Llosgi’r warws
O’r diwedd, cawn wybod pa un o’r cymeriadau a losgodd warws Danny a’r holl geir – Geraint. ‘Dw i’n siŵr nad yw Helen angen mwy o straen gan ei gŵr.
Ond, a yw Claire yn rhan o’r cynllwyn? Am ddynes sy’n feichiog, mae hi’n gwneud llawer iawn o ddryga’…
Ai hi a ysgrifennodd y graffiti sarhaus ar wal stiwdio ei gŵr felly? ‘Dw i’n amau’n gryf…
Dim cystadleuaeth
O ystyried cyfres gyntaf 35 Diwrnod, yr hyn roedd pawb yn siarad amdano oedd y gystadleuaeth rhwng y rhaglen hon ac Y Gwyll, gyda bron iawn pob un ohonom yn gweld ansawdd llawer uwch i gymeriadau, plot a sgript y ddrama dditectif gyda DCI Mathias.
Ond eleni, does dim cystadleuaeth. Mae 35 Diwrnod ar y blaen, gydag actorion yn serennu ym mhob pennod, sgript sy’n ein denu ni ‘nôl yn wythnosol a phlot sy’n sicrhau ein bod ni ar flaenau ein seddi.
Does dim amheuaeth nad yw’r elfennau hyn yn amlygu yng nghyfres Y Gwyll eleni. Siom fawr, ond llongyfarchiadau i dîm 35 Diwrnod.
Cyrraedd y terfyn
Dim ond un nos Sul arall mae’r rhaglen yn ymddangos ar ein teledu, a chawn wybod pwy daflodd Simon allan o ffenestr y swyddfa.
Be’ wnawn ni gyd ar ein nosweithiau Sul wedyn? Cyfres arall yn syth, os gwelwch yn dda!