Tony Hall
Mae’r BBC wedi lansio ymgynghoriad ar gynyddu ei darpariaeth o newyddion Cymreig, gan ofyn i sefydliadau Cymreig roi tystiolaeth ar y mater.

Llywodraeth Cymru, y gwrthbleidiau, y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd fydd yn cael lleisio barn ar y ddarpariaeth.

Mae cyfarwyddwr cyffredinol y gorfforaeth, Tony Hall wedi ysgrifennu at y cyrff gan ddweud y bydd ei ymgynghoriad yn edrych ar “berthnasedd, cyrhaeddiad a safon” newyddion y BBC.

Bwriad y BBC yw ystyried cynyddu ei darpariaeth newyddion i’r gynulleidfa Gymreig a gallai hynny arwain at newyddion penodol am Gymru ar sianeli radio fel Radio 1 a Radio 2.

Mae’r Gorfforaeth hefyd yn ystyried creu rhaglen deledu Cymru am 6 a fydd yn adrodd straeon newyddion Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol.

“Addasu” yn sgil datganoli

Wrth roi tystiolaeth yn y Cynulliad ddiwedd Tachwedd, dywedodd Tony Hall bod angen i’r BBC “addasu ei gwasanaethau” yn sgîl datganoli i sicrhau eu bod yn “adlewyrchu’r tirlun gwleidyddol gwahanol yn llwyr”.

Nododd yn y ddogfen dystiolaeth y ‘dylai penderfyniadau’r BBC sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru’, gan ddweud y byddai’n ‘dad-ganoli’ ei chynyrchiadau rhwydwaith y tu allan i Lundain.