Dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i helpu’r bobol dlotaf yng Nghymru i allu cynhesu eu cartrefi, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Ar hyn o bryd, mae 14% o aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd, a gallai’r niferoedd hyn godi i 45% yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill.
Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, mae tlodi tanwydd yn cyfeirio at aelwydydd sy’n gorfod talu mwy na 10% o’u hincwm ar wresogi eu cartref.
Mae John Williams o Abertawe yn trio treulio’i ddiwrnodau tu allan i’r tŷ er mwyn arbed ar egni, ac yn pryderu am unrhyw gynnydd pellach mewn prisiau.
“Dwi wedi diffodd y gwres ers yn hir, dwi’n ceisio defnyddio’r tegell cyn lleied â phosibl a dwi heb ddefnyddio’r sychwr dillad ers rhai misoedd,” meddai’r gŵr sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
“I fod yn onest, os alla’i dreulio’r diwrnod tu allan y tŷ i arbed egni, yna fe wna’i.
“Mae fy iechyd meddwl a fy ngorbryder wedi mynd gymaint yn waeth yn ddiweddar.
“Dwi jest yn ymdopi ar hyn o bryd ond os ydy’r prisiau’n codi eto, bydda’i wir mewn trwbl.”
‘Mesurau brys’
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o’u hymdrechion blaenorol i leihau tlodi tanwydd.
“Mae tlodi tanwydd nawr yn argyfwng cenedlaethol gyda phrisiau egni, yn enwedig prisiau nwy, yn parhau i godi,” meddai Jenny Rathbone, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau helpu pobol sy’n dioddef o dlodi tanwydd y gaeaf yma, mae’n rhaid mabwysiadu mesurau brys i wella inswleiddio tai nad yw rhai teuluoedd medru fforddio eu cynhesu.”
Mae adroddiad gan y pwyllgor yn dweud bod cyrhaeddiad, maint a phwrpas Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru wedi methu ag ymateb i lefel yr angen yng Nghymru.
Roedd nodau rhagorol i’r Rhaglen Cartrefi Clyd i leihau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon, ond mae’r adroddiad hwn yn dangos ei bod – mewn sawl ffordd – wedi bod yn fethiant.
Mae’r dystiolaeth yn dangos na chyrhaeddodd y cymorth a gafodd ei roi gan y rhaglen hon lawer o bobol yr oedd angen y cymorth hwn arnyn nhw fwyaf.
“Rhaid i’r rhaglen nesaf fod yn llawer mwy o ran maint a gwneud gwaith gwell i dargedu’r rhai sydd angen cymorth,” meddai wedyn.
“Dylai hefyd anelu at fod yn llawer mwy gwyrdd – dim jest darparu boeleri nwy i bobol.”
‘Siomedig’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i’r adroddiadau hefyd, gan ddweud bod y canlyniadau’n “siomedig”.
Fe wnaeth yr adroddiad ddatgelu nad oedd tua hanner yr aelwydydd wnaeth elwa o gynllun ‘Nyth’ y rhaglen yn byw mewn tlodi tanwydd.
Yn 2021, roedd 200,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ond bellach, mae Llywodraeth Cymru’n awgrymu y gallai 614,000 o aelwydydd (neu 45%) fod yn byw mewn tlodi tanwydd y gaeaf hwn.
“Mae canlyniad yr adolygiad yn siomedig, ond nid yw’n syndod,” meddai Jane Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae polisïau Llafur yn parhau i fod wedi colli gafael ar anghenion pobol Cymru, ac mae eu record wael wrth fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn siarad drosto’i hun.
“Rydyn ni angen gweld mwy o weithredu uniongyrchol ar dlodi tanwydd, yn lle gwastraffu arian ar brosiectau aneffeithiol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.