Mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am well setliad ariannol i Sir y Fflint gan Lywodraeth Cymru.

Daw hyn yn dilyn cytundeb rhwng y ddwy blaid fydd yn gweld Llafur yn rhedeg Cyngor Sir y Fflint fel llywodraeth leiafrifol.

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cynnig i ailethol yr arweinydd – y Cynghorydd Ian Roberts – yn ogystal â rhai polisïau.

Gyda’i gilydd, mae gan y ddwy blaid dros hanner y 67 sedd yn y Sir, gyda Llafur yn hawlio 31, tra bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol bedair.

Mae’r cytundeb hefyd yn canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a busnesau lleol, a gweithio tuag at gyrraedd nodau amgylcheddol.

“Mae trafodaethau rhwng y ddau grŵp Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgelu cyd-ddealltwriaeth o bwysigrwydd y gwasanaethau y mae Cyngor Sir y Fflint yn eu cynnig i’r trigolion, busnesau a sefydliadau eraill sy’n gweithredu yn Sir y Fflint,” meddai’r Cynghorydd Hilary McGuill, arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae’r ddau grŵp hefyd yn cydnabod ac yn cytuno bod angen parhau â’r cynnydd a wnaed eisoes i fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol a’i wella ar frys er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llafur Cymru yn cytuno bod y fformiwla ariannu bresennol gan Lywodraeth Cymru yn annheg, nad yw’n gweithio er budd trigolion a busnesau Sir y Fflint.

“Ar ben hynny mae’n arwain at gynnydd diangen o uchel yn y Dreth Cyngor i gwrdd â’r diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn i Gyngor Sir y Fflint gyflawni ei rwymedigaethau statudol a darparu’n gwasanaethau digonol ar gyfer aelodau mwyaf agored i niwed ein cymuned.

“Rydym hefyd yn cytuno bod cael cytundeb ariannu teg gan Lywodraeth Cymru yn un o brif flaenoriaethau’r weinyddiaeth.”