Pan aeth Cymru i mewn i’w chyfnod clo cyntaf, fe sefydlodd Mymuna Soleman o Gaerdydd fforwm rhithwir lle caiff pobol o bob cefndir wahoddiad i siarad.

Roedd hi’n teimlo’n rhwystredig oherwydd diffyg amrywiaeth, ac yn teimlo fel ei bod hi’n methu mynegi ei hun fel menyw o liw mewn gofodau breintiedig.

Wrth i sesiynau’r Privilege Cafe dyfu, mae hi wedi bod yn brysur yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd hefyd, ac erbyn hyn wedi cynnal tua 50 o sesiynau.

Cafodd ei sesiwn wyneb yn wyneb gyntaf ei chynnal yn y Senedd a’i noddi gan Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

Ond mae hi nawr yn awyddus i fynd â’r caffi ar daith drwy Gymru ac yn chwilio am leoliadau i gynnal y sesiynau.

Sefydlu’r Privilege Cafe

Roedd Mymuna Soleman yn teimlo fel pe bai hi’n aml yn cael ei gwthio mewn i ofod doedd hi ddim yn perthyn ynddo, a naratif nad oedd hi ei hun yn gyfrifol am ei lunio.

Ond roedd hi eisiau creu gofod diogel i bobol ddysgu ac felly, gyda chyfrif Zoom wedi’i brynu gan ei dilynwyr ar Twitter, roedd hi’n barod i greu ei gofod ei hun.

Mae’r trafodaethau, a oedd yn cael eu cynnal yn wythnosol yn ystod y cyfnod clo, yn canolbwyntio ar thema wahanol bob tro, ond bob tro’n ymwneud â sut i fynd i’r afael â sefyllfaoedd breintiedig gwyn, hil a sut maen nhw’n croesi ei gilydd.

Ond mae’r thema bob tro yn rhywbeth lle mae gan Mymuna Soleman brofiad byw neu’n rywbeth mae hi’n angerddol amdano.

“Felly fy nhrafodaeth gyntaf erioed oedd ‘Sut ydych chi’n mynegi eich hun mewn ystafell llawn braint?’,” meddai.

“Fe wnaeth 55 o bobol droi fyny ac ro’n i’n meddwl, be’ ar wyneb y ddaear ydw i am wneud efo 55 o bobol? Dwi’n eistedd yn fy ystafell fyw… Does gen i ddim profiad o gynnal na threfnu rhain’.”

Mynd ar daith

A hithau’n byw yng Nghaerdydd, mae gan Mymuna Soleman nifer sylweddol o ddilynwyr o’r ardal leol sy’n mynychu’r trafodaethau.

Ond gan eu bod nhw wedi dechrau ar-lein yn ystod y cyfnod clo, roedd ganddi fynediad at bobol ledled Cymru a thu hwnt.

A nawr, mae hi eisiau mynd â’i thrafodaethau ar daith drwy Gymru wrth i’r caffi droi yn fwy hybrid.

“Yn fy sesiwn a gafodd ei noddi gan Jane Hutt, ro’n i’n gallu gwneud ffrwd byw, ond yn amlwg mae’n rhaid i fi fod yn ystyriol nad pawb sydd efo cysylltiad i’r we a’r holl freintiau sydd gen i. Felly, mae’n rhaid i fi arfer yr hyn dwi’n ei bregethu,” meddai.

“Dwi eisiau cysylltu â’r bobol yn y lleoedd a gofodau lle nad yw fy nhrafodaethau’n digwydd fel arfer.

“Dwi eisiau cyfarfod fy nilynwyr, diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth, cael trafodaethau yn y lleoedd a gofodau sy’n lleol iddyn nhw, ymgysylltu â’u rhwydwaith nhw…

“Dwi eisiau gweld be’ maen nhw’n feddwl am hiliaeth a braint gwyn a fy ngwaith.

“Dwi wedi bod i lefydd fel Glyn Ebwy, Llantristant a Llanelli lle mae pobol sy’n edrych fel fi – dynes Foslemaidd, ddu – yn mynd i fod yn brin.

“Felly dyna sy’n fy ngyrru i. Dwi eisiau mynd i’r llefydd yma, hyd yn oed os ydi’r ardal yn wyn i gyd, a chlywed eu meddyliau am fy mhynciau i.”

Fe wnaeth Mymuna Soleman droi at Twitter i holi ei dilynwyr am awgrymiadau ynghylch ble i fynd â’r sioe deithiol.

I ddysgu mwy am waith y Privilege Cafe, mae modd eu dilyn nhw ar Twitter, Instagram a Facebook.