Mae Mark Drakeford wedi cael ei ganmol am “ddangos arweinyddiaeth gyson a sefydlog yng Nghymru”.
Cafodd y sylwadau eu gwneud gan Alistair Campbell, cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Downing Street a’r Blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Tony Blair – ar ei bodlediad gyda Rory Stewart, y cyn Aelod Seneddol Ceidwadol.
Dywedodd nad yw Prif Weinidog Cymru yn achosi “anhrefn” fel Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Ond roedd yn cydnabod fod yna “deimlad o wrth-Gymreictod ymhlith y Saeson”.
Wrth ymateb i gwestiwn yn holi pam fod y ddau erioed wedi trafod Cymru ar eu podlediad The Rest is Politics, dywedodd Rory Stewart fod “hwnnw yn gwestiwn dwfn”.
“Dw i’n poeni am hynny a dweud y gwir,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod hynny yn nodweddiadol o Albanwyr fel ni.
“Rydan ni wastad yn trafod Iwerddon, rydan ni’n amlwg yn trafod Lloegr yn aml, ond rydyn ni’n anwybyddu Cymru.”
‘Teimlad o wrth-Gymreictod’
Arweiniodd y cwestiwn at holi ai gwrth-Gymreictod wnaeth nadu Neil Kinnock rhag dod yn Brif Weinidog.
“Mae yna deimlad o wrth-Gymreictod ymhlith y Saeson dw i’n meddwl,” meddai Alistair Campbell.
“Mae yna ddelwedd o Albanwyr fel rhai mawr ac afreolus, ond dw i’n teimlo bod Saeson wastad yn nawddoglyd tuag at y Cymry.
“Ond mae’n rhaid i mi ddweud rhywbeth am Mark Drakeford.
“Pe baech chi’n dylunio arweinydd modern i’r 21ain Ganrif, fyddech chi ddim o reidrwydd yn cael Mark Drakeford.
“Ond dw i’n meddwl fod Mark Drakeford wedi dangos arweinyddiaeth gyson a sefydlog yng Nghymru.
“Ac efallai mai dyna pam dydyn ni ddim yn trafod Cymru gymaint, oherwydd nad ydi o’n achosi’r anhrefn mae Boris Johnson yn ei wneud.”