Wrth i’r Urdd ddathlu eu canmlwyddiant eleni, mae Neges Ewyllys Da Plant Cymru’r mudiad hefyd yn dathlu’r cant oed.

Cafodd y neges ei sefydlu gan y Parchedig Gwilym Davies o Feddllwynog, a hynny yn dilyn Cynhadledd Ieuenctid Ysgol Cymru’r Gwasanaeth Cymdeithasol yn Llandrindod.

Fe wnaeth y gweinidog berswadio Swyddfa’r Post i ddarlledu’r Neges gyntaf, a’i danfon allan fel signal delegraff ddiwifr o orsaf Leafield yn Swydd Rydychen.

Fe gyrhaeddodd y Neges ddinas Paris a chafodd ei darlledu gan Dŵr Eiffel ond neb arall, a chafodd y Neges mo’i darlledu yn unman y flwyddyn ganlynol.

Ond yn 1924 y cafodd y Neges ei darlledu gan y BBC am y tro cyntaf,ac fe ddaeth ymatebion o Sweden a Gwlad Pwyl, oedd yn ysgogiad i’w darlledu hi mewn mwy o wledydd a mwy o ieithoedd y byd, gyda’r Almaen, yr Eidal a Siapan yn ei darlledu hi o 1930. Daeth ymateb yn Esperanto, hyd yn oed, o’r Undeb Sofietaidd yn 1934.

Yn 1925 y daeth y Neges yn rhan bwysig o waith yr Urdd, a chafodd Gwasanaethau Heddwch eu cynnal ar sail y Neges erbyn y 1930au, gyda’r BBC yn darlledu’r Gwasanaeth am y tro cyntaf yn 1933, a hwnnw wedi’i gynnal yng Nghapel Seilo Aberystwyth dan arweiniad y Parchedig Owen Prys.

Ymateb o Wcráin a gwledydd eraill

Yn 1932, daeth ymateb i’r Neges gan blant Wcráin, sy’n cynnig mewnwelediad i blant yng Nghymru i batrwm diwrnod ysgol cyffredin, a bywyd mewn pentrefi gwledig fel eu pentref nhw lle roedd pobol yn cydweithio ar fferm gydweithredol y pentref.

Mae cyfeiriad yn y llythyr, hyd yn oed, at yr iaith Esperanto, sy’n dangos bod barn pobol am yr iaith yn amrywio’n fawr, gyda rhai yn ei chefnogi ac eraill yn ei hwfftio’n llwyr.

Mae’r plant yn addo ysgrifennu eto er mwyn dweud mwy am y diwrnod ysgol a’u teuluoedd.

Ym 1946, daeth ymateb gan bobol ifanc Yr Almaen.

“Mae’n flynyddoedd ers inni glywed oddi wrth blant Cymru,” meddai’r neges honno.

“Mae hi wedi mynd yn ddu arnom ni. Hoffem ni glywed oddi wrthych eto.”

Ym 1948, daeth ymateb gan blant yn Siapan eu bod nhw’n “hapus iawn i wybod, wedi blynyddoedd lawer o unigrwydd, eich bod wedi danfon geiriau calonogol o gyfeillgarwch a chariad”.

Yn y 1950au, cafodd yr Urdd y cyfrifoldeb o gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar Ddydd Ewyllys Da, Mai 18, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899.

Dros y blynyddoedd, mae pynciau’r Neges wedi cynnwys y bom atomig, ffoaduriaid, tlodi, rhyfel, trais a cynhesu byd eang.

Neges Heddwch yr Urdd

Neges Heddwch yr Urdd: “Mae’n amser deffro,” medd Gareth Bale

Mae Neges Heddwch Canmlwyddiant yr Urdd yn alwad i beidio ag anwybyddu’r argyfwng hinsawdd