Mae Urdd Gobaith Cymru’n dathlu rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da blwyddyn canmlwyddiant y mudiad, wrth i’r pêl-droediwr byd enwog a chapten Cymru Gareth Bale ddweud ei bod hi’n “amser deffro” a chymryd camau brys i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae’r neges eleni’n galw ar bobol y byd i ddwyn busnesau mawr i gyfrif ac i annog llywodraethau i gymryd camau brys, gan rybuddio, “Mae’n amser deffro”.

Cafodd y neges ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd am 7.30 fore heddiw (dydd Mercher, Mai 18), a bydd yn cael ei dangos hefyd mewn digwyddiad arbennig ar gyfer y Neges Heddwch yng nghwmni’r prif weinidog Mark Drakeford, a phobol ifanc o Brifysgol Aberystwyth fu’n gyfrifol am lunio’r Neges, yn y Ganolfan Heddwch Nobel yn Oslo, prifddinas Norwy.

Mae nifer o bêl-droedwyr adnabyddus Cymru, yn ddynion ac yn fenywod, wedi cymryd rhan mewn fideo, gan gynnwys Bale ac Aaron Ramsey, ac maen nhw ymhlith pedair miliwn o gyn-aelodau’r Urdd sy’n cyhoeddi’r rhybudd am newid hinsawdd.

Yn ôl yr Urdd, Neges 2021 oedd yr un fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn, a hithau wedi’i chyfieithu i 65 o ieithoedd y byd a’i gweld mewn 59 o wledydd, gan gyrraedd dros 84,000,000 o bobol ar draws y byd.

Ond mae Neges 2022 ar gael mewn 101 o ieithoedd.

‘Taro tant gyda phobol ifanc o bob cwr o’r byd’

“Canolfan Heddwch Nobel yw’r lleoliad delfrydol i’r Urdd rannu neges heddwch y canmlwyddiant gyda’r byd,” meddai Mark Drakeford.

“Ar adeg pan fo heddwch y byd mewn cymaint o berygl, nid yw’r neges, na gwaith yr Urdd wrth groesawu ffoaduriaid i Gymru erioed wedi bod yn fwy arwyddocaol.

“Bydd thema’r argyfwng hinsawdd hefyd yn taro tant gyda phobol ifanc o bob cwr o’r byd wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddiogelu’r blaned fregus hon.”

Bob blwyddyn, mae’r Urdd yn gweithio gyda grŵp gwahanol o bobol ifanc i helpu i gryfhau a chynrychioli llais ieuenctid Cymru.

Cafodd neges y canmlwyddiant ar yr Argyfwng Hinsawdd ei llunio gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dilyn cyfres o weithdai a gafodd eu cynnal yn niwedd 2021.

Roedd gweithdai Argyfwng Hinsawdd yr Urdd yn cynnwys siaradwyr gwadd arbennig o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Force of Nature, addysgwyr pryder ynghylch yr hinsawdd, yn ogystal â gweithdai ar ffilm David Attenborough, A Life on Our Planet, diolch i Climate Cymru a WWF.

Rhoddodd y gweithdai gyfle i’r myfyrwyr drafod eu pryderon a’u cwynion ynghylch yr argyfwng hinsawdd yn agored.

Gwnaeth un gweithdy gynnwys cydweithredu gyda myfyrwyr o Brifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy, lle gwnaeth pobol ifanc gymharu barn a syniadau am yr argyfwng hinsawdd.

‘Llwyfan y mae llais ieuenctid Cymru yn ei haeddu’

“Mae rhannu neges heddwch yr Urdd yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn addas iawn ar gyfer neges heddwch sy’n gan mlynedd oed ac mae bod mewn lle mor arwyddocaol yn rhoi’r llwyfan y mae llais ieuenctid Cymru yn ei haeddu mewn gwirionedd i gael ei glywed ledled y byd,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Fel sefydliad, mae gennym ddyletswydd i’r genhedlaeth nesaf i ddefnyddio’r llwyfan hwn i gryfhau eu lleisiau, oherwydd mae rhoi llais i bobol ifanc Cymru yn ganolog i holl weithgareddau’r Urdd.

“Ni allwn anwybyddu nac oedi’r argyfwng hinsawdd, ac er lles ein plant a phlant ein plant, rhaid i bawb weithredu nawr, mae hi wirioneddol yn ‘amser deffro’.”

Ochr yn ochr â rhannu’r neges argyfwng hinsawdd, mae’r Urdd wedi ymrwymo i leihau eu hôl troed carbon ac wedi llunio cynllun sero net gyda tharged i gyflawni sero net erbyn 2050.

Yn ogystal â’r newidiadau corfforol ac ymddygiadol sy’n angenrheidiol i gyflawni sero net, eleni mae’r Urdd yn agor eu canolfan breswyl amgylcheddol gyntaf i bobol ifanc, a honno yng ngogledd Sir Benfro.

‘Yr her fwyaf sy’n wynebu’n planed’

“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Neges Ganmlwyddiant Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd a rôl ganolog ein myfyrwyr yma yn Aberystwyth yn ei datblygu hi,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’n planed, ac mae ymroddiad personol ein myfyrwyr i leihau eu hôl-droed carbon yn destun ysbrydoliaeth i ni i gyd.

“Mae eu neges hefyd yn adlewyrchu traddodiad balch o ragoriaeth ymchwil ac addysgu yma yn Aberystwyth mewn meysydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys datblygu atebion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a datblygu ffynonellau bwyd hanfodol sy’n gallu gwrthsefyll ei effeithiau.

“Ac, mae ein hymrwymiad yn ymestyn i’n gweithgareddau ein hunain hefyd, wrth i ni weithio tuag at ystâd ddi-garbon erbyn 2030.”

Mae pob unigolyn a gymerodd ran yn y Neges wedi llunio eu haddewidion argyfwng hinsawdd eu hunain, fel peidio â siopa am ddillad ffasiwn cyflym yn ogystal â phrynu cynnyrch lleol.

Mewn perthynas â thaith Norwyaidd y myfyrwyr, mae’r Urdd a Phrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda Coed Cadw yng Nghymru gan gyfrannu at y cynllun i ddal a storio carbon a gwarchod coedwigoedd.

Mae modd lawrlwytho’r Neges yma, a’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @Urdd a #Heddwch100.