Mae Ben Lake yn galw ar Ganghellor San Steffan i gyflwyno cyfres o fesurau tymor byr a thymor hir i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac i’w hariannu nhw drwy’r dreth ffawdelw.
Yn ystod dadl ar Araith y Frenhines, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Ceredigion fod y boen sy’n deillio o’r argyfwng costau byw “i’w theimlo’n ddifrifol yng Nghymru”.
Mae hynny, meddai, am fod traean o blant a chwarter o oedolion mewn gwaith eisoes yn byw mewn tlodi cyn yr argyfwng, ac fe rybuddiodd fod costau ynni cynyddol mewn perygl o achosi “argyfwng cymdeithasol ehangach” a’i bod hi’n “anodd deall” pam nad oedd lle mwy blaenllaw i’r argyfyngau ynni a thanwydd yn yr Araith, sy’n amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Yn ôl Ben Lake, gall fod 45% o aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd eisoes yn dilyn y cap diweddar ar brisiau ynni, ac fe alwodd am gyfres o fesurau gan y Canghellor Rishi Sunak.
Mae Ben Lake yn galw am:
- ymestyn y cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig i Gymru, fel bod modd i bobol a busnesau mewn ardaloedd sydd â thrafnidiaeth gyhoeddus wael elwa ar dreth danwydd is
- cyflwyno tariff cymdeithasol newydd i helpu i wneud ynni’n fwy fforddiadwy i bobol fregus
- ymestyn y Disgownt Cartrefi Cynnes a’r Taliad Treth y Gaeaf i bob aelwyd incwm isel
- cynyddu’r arian sydd ar gael ar gyfer insiwleiddio, gan gynnwys cyflwyno deddfwriaeth Gorfodaeth ar Gwmnïau Ynni heb oedi
- Treth ffawdelw ar gwmnïau ynni fel modd o ariannu’r pecyn
‘Poen’, yn enwedig yng nghefn gwlad
“Hoffwn ychwanegu fy llais at bob un heddiw sydd wedi cyfeirio at y boen y mae biliau ynni cynyddol yn ei hachosi i aelwydydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig,” meddai Aelod Seneddol Ceredigion.
“Yn drist iawn, mae’r boen hon i’w theimlo’n ddifrifol yng Nghymru lle, cyn yr argyfwng presennol, roedd traean o blant a chwarter o oedolion mewn gwaith yn byw mewn tlodi.
“Mae adroddiadau’n awgrymu y gall fod cynifer â 45% o aelwydydd yng Nghymru’n byw mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd diweddar yn y cap ar brisiau ynni.
“Mae profiad ardaloedd gwledig yn tanlinellu’r angen am weithredu brys.
“Maen nhw wedi gweld cynnydd mawr mewn costau sefydlog sydd eisoes yn uchel.
“Mae’r cyfraddau dyddiol ar gyfer aelwydydd yng Ngheredigion, ar gyfartaledd, 50% yn uwch na’r rhai sy’n cael eu codi ar Lundain.
“Yn ychwanegu at yr argyfwng i’m hetholwyr mae’r ffaith nad yw rhyw 35% o aelwydydd wedi’u cysylltu i’r grid nwy prif gyflenwad.
“Maen nhw’n dibynnu ar gynhesu olew ac, ar gyfartaledd, maen nhw wedi gweld cynnydd o 150% yng nghostau cyflwyno tanwydd, gan nad ydyn nhw wedi’u gwarchod gan y cap ar brisiau ynni.
“Fodd bynnag, nid yn unig mae prisiau ynni cynyddol yn gwasgu cyllidebau aelwydydd, ond maen nhw hefyd yn bygwth yr economi wledig ac yn achosi’r perygl o greu argyfwng cymdeithasol ehangach.”
Gwasanaethau cyhoeddus
“Dw i ddim yn ymfalchïo mewn nodi mai Cymru yw’r wlad sydd fwyaf dibynnol ar geir yn y Deyrnas Unedig, ac mae angen bod yna fuddsoddiad sylweddol yn ein hisadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus,” meddai wedyn.
“Mae prisiau cynyddol petrol a disel yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus: mae cynnal llwybrau bysiau gwledig a thrafnidiaeth ysgol yn mynd yn fwy anodd, ac efallai’n fwy o bryder yw’r ffaith ei fod yn golygu bod gweithwyr hanfodol – fel gofalwyr cymdeithasol – yn ei chael hi’n anodd fforddio gweithio.
“Gellid cael rhywfaint o ryddhad tymor byr trwy’r Cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig, a byddwn yn annog y Llywodraeth i’w ymestyn i Gymru.
“Mae’r argyfwng tanwydd ac ynni, felly, yn cael effaith wirioneddol ar unwaith.
“Mae e ymhlith y materion brys mwyaf lle mae angen gweithredu gan y Llywodraeth, ac mae hi’n anodd deall felly pam nad yw’n cael lle mwy blaenllaw yn Araith y Frenhines.
“Fel Cadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd, rwy’n annog y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r argyfwng drwy ystyried cynigion gan National Energy Action am Dariff Cymdeithasol Newydd i gael mwy o warchodaeth ar gyfer cwsmeriaid bregus.
“Ynghyd â’r fath gynnig, dylid ymdrechu i gynyddu gweladwyedd cynlluniau fel y Gronfa Gymorth Dewisol a’r gefnogaeth sydd ar gael yn eu sgil, ac ymestyn y Disgownt Cartrefi Cynnes a’r Taliad Tanwydd y Gaeaf i bob aelwyd incwm isel.
“Byddai gwneud hynny’n mynd i’r afael â’r pwysau tymor byr sy’n deillio o brisiau ynni uwch, ond ateb tymor hir fyddai cynnydd sylweddol mewn arian ar gyfer mesurau ynni-effeithlon. Yn benodol, dylai’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth ECO4 heb oedi er mwyn sicrhau bod mesurau insiwleiddio ar waith ar gyfer yr aelwydydd tlotaf cyn gynted â phosib.
“Mae adroddiadau’n awgrymu bod y Canghellor yn ystyried treth ffawdelw untro ar gwmnïau ynni fel modd o ariannu’r fath becyn: Mr Lefarydd, rwy’n gwybod y byddai’n cael cefnogaeth nifer ar draws y Tŷ hwn pe bai’n penderfynu gwneud hynny.
“Yn syml iawn, all teuluoedd yn fy etholaeth i ddim fforddio pris diffyg gweithredu parhaus.”