Mae Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ymhlith y rhai sy’n galw am roi’r hawl i Aelodau o’r Senedd rannu swyddi er mwyn gwella amrywiaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Er bod mwy o fenywod yn y byd gwleidyddol yng Nghymru o gymharu ag etholiadau lleol 2017, mae Rhwydwaith Cydradddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) yn dweud bod “ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yng ngwleidyddiaeth Cymru”.

Dim ond 36% o’r cynghorwyr a gafodd eu hethol ddechrau’r mis hwn sy’n fenywod.

Mae’r Rhwydwaith felly yn galw am “weithredu cadarnhaol” er mwyn sicrhau cynrycholiaeth amrywiol a chyfartal “sy’n adlewyrchu cymdeithas Cymru”.

Yn ôl ymchwil newydd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, mae rhannu swyddi’n gam y gellid ei gymryd yn y Senedd er mwyn gwella amrywiaeth ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer etholwyr.

Cwotâu

Mae WEN Cymru yn dweud eu bod nhw’n croesawu’r cyhoeddiad gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar gwotâu rhywedd, sy’n rhan o’r broses o ddiwygio’r Senedd.

Yn ôl y rhwydwaith, cwotâu yw’r “offeryn mwyaf effeithiol” er mwyn sicrhau mwy o gynrychiolaeth i fenywod, ond maen nhw’n rhybuddio bod angen pecyn ehangach o gamau i herio’r rhwystrau mae menywod a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth yn eu hwynebu yn y byd gwleidyddol.

Maen nhw’n dweud bod rhannu swyddi’n “arf allweddol arall” er mwyn gwella amrywiaeth, gan leihau’r rhwystrau i fenywod, ymgeiswyr ag anableddau a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n wynebu rhwystrau i gael eu hethol.

Yn ôl y rhwydwaith, byddai rhannu swyddi’n golygu “dau am bris un” o ran cynrychiolwyr mewn perthynas â sgiliau a phrofiad, ac fe fyddai’n galluogi aelodau i gynnal gwell cysylltiadau â’u bywydau y tu allan i’r Senedd a allai fod yn berthnasol i waith craffu a chynrychioli.

Mae adroddiadau blaenorol gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a Phwyllgor Diwygio Etholiadol y Senedd wedi archwilio a chefnogi’r arfer o rannu swyddi mewn gwleidyddiaeth.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi nodi bod rhannu swyddi yn un o’r newidiadau syml y gall cyrff cyhoeddus eu gwneud i hyrwyddo’r nod llesiant, Cymru Fwy Cyfartal.

Mae gwleidyddion sydd â phrofiad o rannu swyddi neu amrywiaeth a chydraddoldeb yn awgrymu hefyd y gall rhannu swyddi ddarparu cyfleoedd mentora sy’n galluogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gamu ymlaen i rolau uwch.

Yn ôl yr arbenigwyr academaidd Rosie Campbell a Sarah Childs, dylai ymgeiswyr sy’n rhannu swydd sefyll fel ymgeisydd ar y cyd, gan gytuno ar y blaenoriaethau, y nodau a’r trefniadau gweithio cyn cael eu dewis. Dylent gael eu hethol ar y cyd trwy bleidlais sengl a rennir er mwyn cynnal y rhai sy’n rhannu swyddi yn “un endid cyfreithiol” ac yn un cydymgeisydd ar y papur etholiad.

Deall y manteision

Mae’r gefnogaeth i’r syniad o rannu swyddi mewn gwleidyddiaeth yn neidio o 11% i 48% pan fydd y rhai sy’n cael eu holi yn deall y manteision allweddol.

Mae hyn yn awgrymu y gall unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar rannu swyddi yn y Senedd ennyn cefnogaeth eang gan y cyhoedd os caiff rhesymeg a manteision cynnig o’r fath eu cyfleu mewn modd clir a thryloyw.

Mae syniadau newydd ar gyfer prosesau etholiadol yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn rhan o Gam 2 o’r broses o ddiwygio’r Senedd.

Mae WEN Cymru yn argymell y canlynol:

  • Dylai’r Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Diwygio’r Senedd argymell polisi i Lywodraeth Cymru ar gyfer newid y ddeddfwriaeth i ganiatáu ymgeiswyr i rannu swyddi yn etholiad nesaf y Senedd, a gellid archwilio hyn wrth i’r bil diwygio gael ei baratoi.
  • Dylid annog amrywiaeth eang o aelodau etholedig, nid menywod yn unig, i fynd ati i rannu swyddi gweithredol ym myd llywodraeth leol.

“Mae’r cynnydd o 8% yng nghynrychiolaeth menywod yn dilyn yr etholiadau lleol yn nodi cam pwysig ymlaen,” meddai Dr Jessica Laimann, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus WEN Cymru.

“Ond mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd, ac mae angen archwilio pob llwybr ar frys i gynyddu amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

“Mae swyddi eisoes yn cael eu rhannu’n llwyddiannus yng nghabinetau rhai cynghorau, a gallai gwneud hyn yn fwy eang ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru gael effaith fawr.

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos yn glir y gall rhannu swyddi fod yn ysgogiad pwysig i helpu i gyflawni cynrychiolaeth wleidyddol sy’n adlewyrchu ein poblogaeth amrywiol, gan felly gyfnerthu ein democratiaeth.”

‘Sicrhau mai’r Senedd yw gwir lais pobol Cymru’

“Dylai opsiynau i rannu swyddi ar gyfer gwleidyddion fod yn rhan o’r drafodaeth sylfaenol am y modd i greu Senedd sydd wir yn meddu ar weledigaeth, sy’n hyblyg, ac sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif,” meddai Bethan Sayed.

“Mae hon yn drafodaeth am sicrhau bod pobol newydd yn mynd i fyd gwleidyddiaeth, gyda syniadau newydd.

“Mae’n ymwneud â’r modd yr ydym yn gweithio mewn ffordd wahanol trwy rannu cyfrifoldebau a thasgau.

“Mae’n ymwneud â chwalu rhwystrau i’r rheiny na fyddent yn breuddwydio mynd i fyd gwleidyddiaeth fel arall.

“Mae’n ymwneud â sicrhau mai’r Senedd yw gwir lais pobol Cymru.”