Gallai cyflwyno treth dwristiaeth “beryglu” adferiad y diwydiant twristiaeth, yn ôl cyfarwyddwr cwmni sy’n berchen ar barciau gwyliau yn y canolbarth.
Yn ôl Dylan Roberts, rheolwr gyfarwyddwr Bywater Leisure Parks a chyfarwyddwr British Holiday and Home Parks Association yng nghanolbarth Cymru, mae’r diwydiant yn “bryderus iawn” ynghylch cynlluniau posib gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno treth dwristiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn dechrau yn hydref 2022.
Daw rhybuddion Dylan Roberts, sy’n byw yn Bow Street ger Aberystwyth, yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru.
“Rydyn ni’n bryderus iawn fel diwydiant y gallai’r adferiad gael ei amharu pe bai Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r dreth dwristiaeth arfaethedig, yn enwedig os yw’n cael ei weinyddu gan bob awdurdod lleol heb unrhyw gysondeb dros Gymru,” meddai.
“Dylem ni fod yn annog mwy o bobol i ymweld â Chymru yn hytrach nag o bosib bygwth dyfodol busnesau sy’n dibynnu ar arian sy’n cael ei wario gan ymwelwyr.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y sector twristiaeth. Fodd bynnag mae’r tueddiad staycations wedi amlygu pwysigrwydd twristiaeth ddomestig i’r economi a llesiant pobol.”
‘Bownsio’n ôl’
Fe wnaeth Dylan Roberts y sylwadau ar ôl croesawu Aelod o’r Senedd Trefaldwyn i Barc Gwyliau Morben Isaf yn Nerwenlas ger Machynlleth.
Dywed Russell George y byddai treth dwristiaeth yn “hynod niweidiol i’r diwydiant twristiaeth a’r economi ehangach”.
“Pan wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant, roedden nhw’n dangos yn glir y difrod y byddai’r dreth hon yn ei gwneud,” meddai.
“Rydyn ni angen i’r diwydiant twristiaeth fownsio’n ôl yn gryfach nag yr oedd cyn y pandemig gyda help tueddiadau newydd fel staycations ac atyniadau twristiaeth ecogyfeillgar newydd.
“Mae’r diwydiant yn andros o bwysig i economi canolbarth Cymru, gan gefnogi ein busnesau lleol yn ogystal ag amlygu Powys fel lle i ymweld â fe.
“Twristiaeth yw un o’r cyfranwyr mwyaf i swyddi lleol, busnesau lleol, a’r economi leol, ac felly mae hi o’r pwysigrwydd mwyaf ein bod ni’n parhau i gefnogi’r diwydiant.”
‘Baich gormodol ar gymunedau’
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiadau i gyflwyno ardollau, ac yn ôl Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru maen nhw’n “gyfle i ymwelwyr wneud buddsoddiad mewn seilwaith a gwasanaethau lleol”.
“Heb ardoll o’r fath, mae baich gormodol ar gymunedau lleol i ariannu gwasanaethau a darpariaethau lleol, y mae twristiaid yn dibynnu arnyn nhw,” meddai Rebecca Evans wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad.
“O gadw traethau a phalmentydd yn lân, i gynnal parciau, toiledau a llwybrau lleol – dylai’r seilwaith hanfodol sy’n cynnal twristiaeth gael ei gefnogi gan bawb sy’n dibynnu arno.
“Byddai cyflwyno a gweithredu ardoll o’r fath yn sicrhau y bydd modd mwynhau cyrchfannau yng Nghymru am genedlaethau i ddod. Byddai hefyd yn annog twristiaeth fwy cynaliadwy.”