Gydag ymchwil yn dangos mai dim ond 53% o bobol sy’n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis, mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw am godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa.

A hithau’n Wythnos Gweithredu Dementia, mae sefydliadau ac unigolion amrywiol yn ceisio codi ymwybyddiaeth o Glefyd Alzheimer a Dementia.

Y thema eleni yw ’diagnosis’, ar ôl i ymchwil hefyd ddatgelu bod cyfraddau diagnosis o Glefyd Alzheimer wedi gostwng i’w lefel isaf ers pum mlynedd.

Mae ymchwil Cymdeithas Alzheimer yn dangos mai camsyniad yw’r canfyddiad bod colli cof yn arwydd arferol o heneiddio, ac mai dyma’r rhwystr mwyaf i bobol sy’n ceisio cael diagnosis o ddementia.

Yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mai 18), bydd Jane Dodds yn amlygu’r angen am ragor o ymwybyddiaeth o Glefyd Alzheimer a Dementia, gan dynnu sylw at ei phrofiadau ei hun wedi i’w mam farw gyda’r clefyd.

Dangosodd ymchwil ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fod bron i hanner gofalwyr pobol sy’n byw gyda dementia wedi dweud bod eu hiechyd wedi dirywio yn ystod y pandemig.

Awgrymodd yr ymchwil hefyd y dylid gwneud mwy i gydnabod a nodi gofalwyr di-dâl fel y gallan nhw gael mynediad at wasanaethau cymorth pwrpasol.

‘Codi ymwybyddiaeth’

“Roeddwn yn awyddus i gofnodi fy niolch i’r cymunedau a’r gwasanaethau hynny am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia – yn enwedig y rheini yn fy rhanbarth i, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru,” meddai Jane Dodds.

“Fel rhywun yr effeithiwyd arni’n bersonol gan ddementia pan gafodd fy mam ddiagnosis o’r clefyd, rwy’n gwybod yn iawn pa mor hanfodol yw gwaith gofalwyr ac elusennau a pha mor bwysig yw diagnosis cynnar i unigolion a’u teuluoedd.

“Mae gennym nifer o enghreifftiau o gynlluniau sy’n ystyriol o ddementia ledled y rhanbarth gan gynnwys Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Aberhonddu a enillodd wobr am eu gwaith yn 2016; Marchnad Llanelli sef y farchnad Dementia-Gyfeillgar gyntaf yng Nghymru yn 2016; Gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan Gymdeithas Alzheimer yn Sir Benfro; Dementia Matter ym Mhowys a gwasanaethau cymorth Age Cymru Dyfed.

“Gyda dim ond 53% o bobol sy’n byw gyda dementia yng Nghymru yn cael diagnosis, fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth.

“Mae angen i ni hefyd weld mwy o gefnogaeth yn cael ei rhoi i’r degau o filoedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n gofalu am berthnasau neu ffrindiau â dementia.”