Mae pwyllgor Cymorth Cristnogol Cricieth yn gobeithio creu cadwyn o 500 o bobol ar brom y dref dros y penwythnos i godi arian at Wcráin.
Ddydd Sadwrn (Mai 21), bydd bunting 400 medr yn cael ei godi ar y prom gan y dorf, sef y bunting hiraf i gael ei godi yno, mae’n debyg.
Bydd gofyn i bobol dalu lleiafswm o £2 i gymryd rhan yn y gadwyn o gariad, ac mae croeso i unrhyw un ymuno, gyda’r holl arian yn mynd tuag at apêl Cymorth Cristnogol i Wcráin.
“Mae hi’n ddiwedd Wythnos Cymorth Cristnogol, ac mae Cymorth Cristnogol, yn ogystal â helpu oherwydd yr hinsawdd a phroblemau felly mewn gwledydd yn Affrica yn arbennig, maen nhw hefyd yn naturiol yn helpu Wcráin,” meddai Eirwen Jones, ysgrifennydd pwyllgor Cymorth Cristnogol lleol Cricieth, wrth golwg360.
“Roedden ni’n teimlo, gan nad oedden ni’n mynd o gwmpas o ddrws i ddrws efo amlenni Cymorth Cristnogol, y byddai’n well i ni ganolbwyntio ar helpu Wcráin achos mae o’n rhywbeth sydd wedi cyffwrdd pawb.
“Rydyn ni’n gobeithio cael 500, neu mae’n freuddwyd!
“Gaethon ni wylnos yng Nghricieth ryw fis yn ôl ac roedd hwnnw wedi’i drefnu mewn mater o ddyddiau ac mi ddaeth yna tua 200-300. Codwyd £800 o bunnau beth bynnag.
“Mae rhywun yn gobeithio, ond mae hi’n ddydd Sadwrn, gall hi fwrw… gawn ni weld!”
‘Dwylo dros y môr’
Mae’r digwyddiad yn un o dri gweithgaredd sy’n cael eu cynnal yn y dref i godi arian at Wcráin.
“Roedden ni eisiau rhywbeth i danio dychymyg, ac mae’r syniad o ddwylo dros y môr a chadwyn cariad yn rhywbeth sy’n gyfoethog iawn, fyswn i’n feddwl,” meddai Eirwen Jones.
“Roedd rhywun eisiau ryw ddigwyddiad fyddai’n tanio’r dychymyg, rydyn ni’n gobeithio bod hwn am wneud hynny.
“Y bwriad ydy y bydd yna gân efo corn siarad yn chwarae cerddoriaeth, ac wedyn am 3 o gloch byddan ni’n codi’r bunting bedair gwaith i bedwar ban byd.”
Darnau o ddefnydd glas a melyn yw’r bunting, sy’n cynnwys dros 3,000 o dameidiau unigol.
Bydd y bunting yn ymestyn o fwyty Dylan’s draw tuag at gwt y bad achub ar brom Cricieth, meddai Eirwen Jones.
Mae’r artist Ffion Gwyn, Pennaeth Adran Gelf Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli, wedi mynd ati i greu baner “maint cynfas” fydd yn cael ei chario ar hyd y prom hefyd.
“Fydd yna gerddoriaeth a phobol efo bwcedi’n casglu arian. Gobeithio y daw yna ddigon o bobol ac y byddan nhw’n ddigon hael,” meddai wedyn.
Ynghyd â’r gadwyn o gariad ddydd Sadwrn, mae’r pwyllgor wedi trefnu te mefus yn Festri’r Traeth heddiw (dydd Mercher, Mai 18), a Sialens £5 yn yr eglwysi lleol lle mae pawb yn cael £5 ac yn cael mis i wneud i’r arian dyfu.
- Bydd y gadwyn o gariad yn cael ei ffurfio am 3 brynhawn dydd Sadwrn (Mai 21).