Mae angen trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl Cymru’n llwyr, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Mewn dadl yn y Senedd yn nes ymlaen heddiw (dydd Mercher, Mai 18), bydd y blaid yn galw am adolygiad brys i gynaliadwyedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc.
Wrth gyfeirio at amseroedd aros, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu er mwyn atal “argyfwng”.
Dros y chwe mis diwethaf, cymerodd hi fwy na 28 niwrnod i fwy na hanner y bobol ifanc dan 18 oed gael mynediad at asesiad gwasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl cychwynnol.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am sicrhau bod yna wasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobol ifanc hefyd, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig am i Lywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Ddydd Llun (Mai 16), dywedodd elusen Mind Cymru fod angen gwneud newidiadau brys i wella’r system a chefnogi pobol ifanc sy’n symud at wasanaethau iechyd meddwl i oedolion.
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon eisoes wedi dweud y byddai amseroedd aros a’r rhwystrau at fynediad cyn y pandemig “wedi bod yn annerbyniol mewn unrhyw faes arall o feddygaeth”.
‘Problemau hanesyddol’
Er bod y Llywodraeth Lafur yn honni o hyd fod llesiant plant a phobol ifanc yn flaenoriaeth, mae’r realiti yn wahanol, yn ôl James Evans, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae plant a phobol ifanc yn aros yn hirach am wasanaethau ac, mewn rhai ardaloedd, mae dros naw ym mhob deg yn aros mwy na’r amser targed ar gyfer asesiadau,” meddai.
“Er bod y pandemig wedi cael effaith niweidiol ar lesiant y genedl, mae’r problemau’n rhai hanesyddol, sy’n amlwg o’r pryderon gafodd eu codi gan Bwyllgor y Senedd bedair blynedd yn ôl – Pwyllgor oedd yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl presennol.
“Mae angen newid gwirioneddol yng ngwasanaethau iechyd meddwl er mwyn adfer wedi’r pandemig, gan gynnwys adolygu cynaliadwyedd y system bresennol i gefnogi pobol ifanc.
“Dw i’n falch o weld bod yna gytundeb trawsbleidiol i fynd i’r afael â’r materion hyn, a dw i’n barod i weithio gyda phwy bynnag i wella llesiant meddyliol ymysg pobol ifanc ein cymdeithasol.
“Ond allwn ni ond wneud hynny os yw’r Llywodraeth Lafur yn cydnabod a derbyn y broblem y maen nhw’n gyfrifol am ei datrys.”
Cynyddu gwariant
Cyn y ddadl heddiw, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ailadrodd eu galwadau am wasanaeth iechyd meddwl 24 awr.
Maen nhw hefyd am weld 13% o gyllideb Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n mynd tuag at iechyd meddwl erbyn 2028, ac eisiau gweld Gweinidog Iechyd Meddwl penodol yn cael ei benodi nes bod yr ôl-groniad ar restrau aros yn clirio.
“Rydyn ni’n gweld gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hymestyn a phobol yn disgyn drwy’r craciau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Ond mae’r bygythiad o fwlch anferth rhwng cenedlaethau yn arbennig o bryderus.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei drin yn gyfartal i iechyd corfforol. Pe bai plentyn yn torri’i goes fydden ni ddim yn disgwyl pedair wythnos i’w drin, felly pam ddylai hi fod yn dderbyniol i blentyn sy’n mynd drwy argyfwng iechyd meddwl orfod aros mor hir?”
Mae ystadegau Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobol Ifanc yn dangos nad yw 69.8% o bobol ifanc sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau am y tro cyntaf yn cael eu gweld o fewn amser targed Llywodraeth Cymru.
Ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae’r ganran mor uchel â 90.3%.
“Mae’r ystadegau hyn yn dangos yn glir nad yw Llafur yn cwrdd â’r disgwyliadau, a bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i alw am wasanaethau iechyd meddwl 24/7 i Gymru ynghyd â chynyddu cyllid gwasanaethau iechyd meddwl.
“Mae’r gwaith mae mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio â phobol ifanc sy’n dioddef iechyd meddwl gwael yn ei wneud yn amhrisiadwy ond os ydyn ni am fynd i’r afael â’r endemig hwn, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar gapasiti cyllid cynaliadwy ar gyfer y mudiadau hyn.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.