Mae’n debygol mai parhau i godi fydd chwyddiant yn y Deyrnas Unedig, yn ôl economegydd o Brifysgol Bangor sydd wedi bod yn siarad â golwg360.

Daw hyn wrth i ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddatgelu bod chwyddiant wedi cyrraedd ei lefel uchaf – 9% – ers 40 mlynedd.

Mae tua thri chwarter y cynnydd yn deillio o’r cynnydd o 54% yn y cap ar brisiau ynni a ddechreuodd ym mis Ebrill, ac a oedd yn cyfateb i gynnydd o £700 y flwyddyn ym mil ynni cyfartalog aelwydydd.

Yn y cyfamser, mae costau byw wedi cynyddu yn sgil rhyfel Rwsia yn Wcráin, gyda phrisiau bwyd a thanwydd yn codi.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak yn dweud na all y Llywodraeth “amddiffyn pobol yn llwyr” rhag prisiau ynni uwch – her y mae’n ei disgrifio fel un byd-eang.

Fodd bynnag, mae Dr Edward Jones, sy’n ddarlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, wedi dweud wrth golwg360 bod “yn sicr bethau gall y Llywodraeth eu gwneud i helpu’r sefyllfa”.

“Rydan ni’n gweld Ffrainc, lle maen nhw wedi cyflwyno cap ar brisiau egni, ac mi faswn i’n falch o weld Llywodraeth Prydain yn gwneud rhywbeth tebyg,” meddai.

“Yr her ydi, mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain gydweithio efo Banc Lloegr i ddod â chwyddiant i lawr.

“Dydy hi ddim yn bosibl i un ei wneud o ar ben ei hun, mae’n rhaid i ni weld cydweithio rhwng y ddau.

“Yn anffodus, beth rydan ni wedi ei weld yn ddiweddar ydi bod Llywodraeth Prydain yn gweld bai ar Fanc Lloegr lle tydi’r holl fai ddim yn disgyn arnyn nhw.”

‘Treth synhwyrol’

Mae sawl un wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno treth ffawdelw (windfall tax) yn ddiweddar.

Fodd bynnag, mae Dr Edward Jones yn poeni am oblygiadau hynny, gan ddweud y byddai’n well ganddo weld cwmnïau ynni’n “talu treth synhwyrol dros nifer o flynyddoedd”.

“Yn anffodus, beth rydan ni’n ei weld efo windfall tax ydi bod y rhain yn bethau anodd eu rhoi ar waith,” meddai.

“Rydan ni’n gwybod bod Sbaen wedi ceisio cyflwyno un ar eu cwmnïau ynni nhw blwyddyn ddiwethaf ac wedi methu oherwydd ei fod o’n anodd ei wneud.

“Rŵan, dw i’n sylweddoli y basa windfall tax yn rhywbeth poblogaidd ond mae gen i gwestiynau ynglŷn â pha mor effeithiol fysa fo mewn ffordd oherwydd os ydi’r cwmnïau yma’n gweld eu treth yn mynd yn uwch y flwyddyn yma mi fydd y gost yna’n disgyn ar y cwsmeriaid.

“Hefyd, pa effaith fasa hyn yn ei gael ar bobol gyda’u pensiynau?

“Rydan ni’n gwybod bod llawer iawn o bensiynau ac arbedion sydd gan bobol wedi’u buddsoddi yn y cwmnïau yma hefyd.

“Felly dw i reit bryderus am side effects y math yna o beth.

“Beth fysa’n llawer iawn gwell gen i i’w weld fyddai ail edrych ar y system trethi sydd gennym ni yn y wlad a gwneud yn siŵr fod y cwmnïau yma’n talu treth synhwyrol dros nifer o flynyddoedd i wneud yn siŵr nad ydym yn glanio mewn sefyllfa fel yr ydyn ni rŵan.”

‘Disgwyl i chwyddiant godi’

Mae Dr Edward Jones yn darogan mai parhau i godi y bydd chwyddiant.

“Yn anffodus, fe ddaru ni glywed eto yn ddiweddar Banc Lloegr yn dweud nad oes unrhyw beth y maen nhw’n gallu ei wneud i stopio chwyddiant rhag cyrraedd 10%,” meddai.

“Er peth fisoedd rŵan, rydan ni wedi bod yn disgwyl i chwyddiant godi i double digits, o gwmpas yr haf yr oedden ni’n ei amcangyfrif, a dweud y gwir.

“Efallai ein bod ni ychydig bach oddi arni rŵan efo 9%, ond yn sicr dw i’n disgwyl gweld chwyddiant yn cario ymlaen i gynyddu.

“Y risg mawr ydi ein bod ni’n mynd mewn i inflation spiral lle mae pobol a busnesau yn ymateb mewn ffordd sy’n achosi mwy o chwyddiant, ac felly mae hi’n mynd yn anoddach byth i’w stopio.”

Ben Lake

Argyfwng costau byw: galw am becyn o fesurau wedi’u hariannu drwy’r dreth ffawdelw

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, am weld mesurau tymor byr a thymor hir yn cael eu cyflwyno