Mae Plaid Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd adolygiad annibynnol i lifogydd yn cael ei gynnal yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad yn ystyried tystiolaeth o ymchwiliadau a gafodd eu cynnal gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac yn cael ei arwain gan y bargyfreithiwr blaenllaw Elwen Evans QC.

Mae’r adolygiad yn rhan o’r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Dywed Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, ei fod yn gobeithio y bydd yr adolygiad yn cynnig “atebion parhaol i beryglon cynyddol yr argyfwng hinsawdd”.

“Cafodd llawer o rannau o’m rhanbarth eu taro’n galed yn dilyn Storm Dennis,” meddai.

“Mae llawer o bobol mewn llefydd fel Llanhiledd, Ystrad Mynach a rhannau helaeth o Sir Fynwy yn dal i deimlo’n anesmwyth pryd bynnag y bydd glaw trwm oherwydd eu bod yn ofni y bydd hanes yn ailadrodd ei hun.

“Mae’n annheg bod pobol yn gorfod byw fel hyn.”

‘Cam i’r cyfeiriad iawn’

“Gwyddom fod mwy o law yn fwy tebygol yn y dyfodol felly mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan asiantaethau sy’n gyfrifol am liniaru ac ymateb i lifogydd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt,” meddai wedyn, wrth drafod y ffordd ymlaen.

“Mae angen i ni hefyd feddwl am atebion parhaol i beryglon cynyddol yr argyfwng hinsawdd.

“Er nad yw’r adolygiad hwn yn cyrraedd yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol y galwodd Plaid Cymru amdano, mae’n gam i’r cyfeiriad iawn.

“Rwy’n gobeithio y bydd yn arwain at ddiogelu ein cymunedau’n well a bod trigolion mewn cymunedau sy’n dioddef llifogydd yn cael y tawelwch meddwl y maent yn ei greu.”