Mae nifer o aelodau seneddol wedi beirniadu’r Aelod Seneddol Ceidwadol Michael Fabricant am ei sylwadau yn sgil arestio aelod anhysbys o’i blaid ei hun ar amheuaeth o dreisio ac ymosod yn rhywiol.

Mae’r aelod seneddol, sydd heb ei enwi, wedi cael gorchymyn gan y Prif Chwip i gadw draw o San Steffan tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad i’r honiadau.

Heddiw (dydd Mercher, Mai 18), dywedodd Fabricant y byddai aelodau seneddol yn heidio i San Steffan er mwyn “profi nad nhw yw’r un sydd wedi cael gorchymyn gan y Prif Chwip i aros gartref”.

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu’r sylw mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac aelod o’r Blaid Geidwadol, wrth iddo ddweud bod y sylw’n “hurt” ac yn “ansensitif”, cyn ychwanegu wrth siarad â’r BBC fod y sylwadau’n “ceisio ysgafnhau sefyllfa ddifrifol iawn” a’i fod e’n “gresynu o ddarllen y fath bethau”.

Yn ôl Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, mae’r sylwadau’n “dangos diffyg ystyriaeth hollol warthus o’r dioddefwyr honedig”.

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, nad yw “treisio na thrais rhywiol – boed yn honiadau neu wedi’i brofi – yn destun ar gyfer cellwair digri”.