Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan wedi rhybuddio bod llymder yn niweidio “enaid cymdeithas” Cymru.

Ar raglen ‘Sunday Supplement’, mynegodd ei siom fod gwasanaethau lleol megis llyfrgelloedd yn cau.

Dywedodd: “Pan edrychaf ar fy mhlentyndod fy hun, o gael fy magu mewn cymuned lofaol, brwydrodd glowyr er mwyn adeiladu neuaddau cymunedol a llyfrgelloedd ac yn sydyn, ry’n ni’n cael gwybod y gallwch chi gael y cyfan ar y rhyngrwyd, ac nad oes gwir angen llyfrgelloedd arnoch chi.

“Ond rwy’n credu bod hynny’n gwneud rhywbeth i enaid cymdeithas… fel nad oes ots rywsut am y meddwl na’r dychymyg.”

Syria

Wrth drafod y frwydr yn erbyn eithafiaeth Islamaidd, dywedodd Dr Barry Morgan nad oes cyfiawnhad dros weithredu’n filwrol yn Syria.

“Rwy’n dechrau meddwl a ydyn ni wedi dysgu unrhyw beth o’n cyfarfod gyda’r Dwyrain Canol… ac rwy’n gwybod fod yr achos yn gyfiawn a bod y Wladwriaeth Islamaidd fondigrybwyll yn ffiaidd – ond beth am y goblygiadau i’r boblogaeth gyffredin a’r ffordd y bydd y cyfan yn dod i ben?

“Dydw i ddim yn heddychwr ac rwy’n credu bod adegau pan fod rhaid i ni fynd i ryfel. Roedd yr Ail Ryfel Byd yn beth angenrheidiol i’w wneud – ond dydw i ddim yn credu bod modd ei gymharu â hyn.”

Rhybuddiodd y gallai gweithredu’n filwrol yn erbyn eithafwyr eu gwneud yn fwy eithafol.

Star Wars

Dywedodd fod neges yn y ffilm Star Wars newydd, ‘The Force Awakens’ am y frwydr rhwng da a drwg.

“Adeg y Nadolig, rydyn ni’n meddwl am yr Iesu fel goleuni’r byd, ac mae sabrau golau’n arwydd o obaith.

“A phan welwch chi unigolion a chymunedau’n sefyll dros yr hyn sy’n iawn, pan welwch chi bobol yn cael eu helpu mewn amryw ffyrdd, pan welwch chi uwchgynhadledd Paris lle mae gobaith oherwydd bod 195 o wledydd wedi cytuno i hynny, mae hynny’n rhoi gobaith i mi y bydd golau’n ennill yn y pen draw.”