Mae Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, wedi wfftio’r awgrym y dylai pedwar heddlu Cymru uno, gan ddweud wrth golwg360 fod y syniad yn un “naïf”.

Daw hyn ar ôl i Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, alw am uno holl heddluoedd Cymru a chreu un heddlu mawr.

“Rwy’n Gymro balch, yn wladgarwr ond nid ar sail rhamant dwi wedi galw am un llu cenedlaethol,” meddai mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C.

“Dwi ddim yn gweld bod angen pedwar prif gwnstabl, pedwar comisiynydd, pedwar dirprwy brif gwnstabl.

“Dwi’n credu bod cymunedau lleol yn becso pwy yw eu heddwas lleol. Mae’r syniad yn ddatblygiad o’r hyn mae’r Arglwydd Thomas wedi dweud yn ei adroddiad ef.

“Mae yna Fwrdd Plismona dros Gymru, Bwrdd Cyfiawnder Cenedlaethol dros Gymru – datblygiad naturiol yw hyn o beth mae’r lleill wedi dweud ers blynyddoedd.”

“Gweithio’n dda” yn yr Alban

Byddai uno’r pedwar heddlu yn creu un llu gyda dros 7,400 o swyddogion, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Gartref.

Fe unodd wyth llu rhanbarthol yr Alban yn 2013 gan greu un llu mawr.

Ond er bod Dr Richard Lewis yn cydnabod fod hynny wedi arwain at broblemau i ddechrau, mae’n mynnu bod modd dysgu o’r camgymeriadau a wnaed yn yr Alban.

“Fe fuodd y blynyddoedd cynnar yn anodd, ond dwi’n credu gallwn ni ddysgu’r gwersi hynny yn yr Alban a sicrhau bod ni ddim yn gwneud yr un camgymeriadau yng Nghymru,” meddai wedyn.

“Dyw e ddim yn drychinebus nawr. Mae’n gweithio yn dda.”

‘Bygythiad’ o ddinasoedd Lloegr, a “briwsion” i Gymru

“Dw i ddim yn meddwl ei fod o’n syniad da,” meddai Arfon Jones wrth golwg360.

“O fynd oddi ar brofiad yr Alban, wnaeth uno wyth llu yn un, mi gawson nhw lot o drafferthion wrth geisio gweithio gyda’i gilydd.

“Y ffordd y dylen ni edrych ar blismona ydi edrych ar yr ochr weithredol.

“Pan ti’n edrych ar ogledd Cymru, a gweddill Cymru a dweud y gwir, dydy’r bygythiad troseddol ddim yn dod o’r gogledd neu’r de, mae o’n dod o’r dwyrain a’r gorllewin.

“Mae’r bygythiad i ni yn y gogledd yn dod o Fanceinion a Lerpwl, ac mae’r bygythiad i dde Cymru yn dod o Fryste a Llundain.

“Mae o’n dod i lawr yr M5 a’r M4, dydy o ddim yn dod o ganolbarth Cymru.

“Felly dw i’n bersonol yn credu, pe baen nhw’n uno i fod yn un llu, y bydd pob dim yn canolbwyntio ar ardal yr M4 a fydd yna ddim byd ond briwsion i’r gweddill ohonom ni.

“Mi fyddai hynna yn beth drwg i ddiogelwch pobol yng ngogledd Cymru a gorllewin Cymru.

‘Naïf’

“Roedd Richard Lewis yn Brif Gwnstabl yn Heddlu Cleveland cyn iddo ddod yn ôl i Heddlu Dyfed-Powys a chlywes i erioed ohono yn dweud bod angen uno llu bach fatha Cleveland efo llu mawr fatha Northumbria,” meddai wedyn.

“Mae yna luoedd yn Lloegr wedi trio cyfuno – Dorset, Devon and Cornwall er enghraifft – ac maen nhw wedi methu oherwydd problemau ariannol, pwy sy’n talu be’ i mewn i’r pot.

“Rydan ni gyd yn talu treth cyngor gwahanol i mewn i’r heddlu ac mae’r gyfradd sy’n dod o drethi lleol a threthi canolog yn wahanol ym mhob llu.

“Felly mae (uno) yn creu problem logisteg anferth, ac mae yna lot o luoedd yn Lloegr wedi tynnu allan o gydweithio oherwydd problemau fel hyn.

“Dydy o ddim yn beth hawdd i’w wneud, a dw i’n meddwl bod y ffordd mae Richard Lewis wedi’i gyflwyno fo yn hynod o syml a naïf.”

‘Cadw gwreiddiau plismona yn lleol’

Un arall sy’n gwrthwynebu’r syniad o uno heddluoedd Cymru ydi Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De.

Wrth siarad ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru ddydd Mawrth (Mawrth 29), dywedodd fod yn “rhaid cadw gwreiddiau plismona yn lleol”.

“Mae gen i barch mawr at Richard Lewis, fydd o’n llwyddiant yn ei faes sgwâr, ond rhaid cadw gwreiddiau plismona yn lleol”, meddai.

“Mae’n bosib rhedeg yr elfen adweithiol o blismona ar ôl traed mwy fel Cymru a rhanbarthau o Loegr, ond fysa’n colli atebiaeth y Prif Gwnstabl i gymunedau.

“Dyna beth sydd wedi digwydd yn yr Alban.

“Roeddwn i’n clywed gan gynghorau lleol yn yr Alban ar ôl uno yn un llu, bod pob cysylltiad ‘efo’r Prif Gwnstabl wedi mynd.”