Mae grwpiau cwsmeriaid wedi beirniadu cwmnïau ynni ar ôl i’w gwefannau fethu ymdopi â phobol yn heidio i gyflwyno’u ffigurau terfynol oddi ar eu mesuryddion ar ddiwrnod ola’r flwyddyn ariannol, ddiwrnod cyn i brisiau ynni godi’n sylweddol.
Mae Nwy Prydain, EDF, E.On, SSE, So Energy ac Octopus Energy i gyd wedi adrodd am broblemau technegol heddiw (dydd Iau, Mawrth 31).
Roedd yr arbenigwr Martin Lewis a Chyngor Ar Bopeth wedi bod yn annog pobol i ddarllen eu mesuryddion ac i gofnodi’r ffigurau terfynol er mwyn osgoi gorfod talu gormod am eu defnydd, wrth i’r cynnydd o 54% yn y cap prisiau gan Ofgem ddod i rym o fory (dydd Gwener, Ebrill 1).
Yn ôl Cyngor Ar Bopeth, mae’n “sefyllfa rwystredig” i gwsmeriaid sy’n poeni ynghylch sut maen nhw am dalu biliau uwch.
Maen nhw a Which? yn dweud nad yw’r mesurau sydd wedi’u cyflwyno er mwyn ymdopi â’r cynnydd yn y defnydd o’r wefan wedi bod yn llwyddiannus, ac maen nhw’n annog pobol i dynnu llun o’r mesurydd gyda’u ffigurau cyn y dyddiad cau, rhag ofn na fydd modd eu cyflwyno nhw mewn da bryd, fel bod modd i gwmnïau roi brasamcan.
Yn ôl cwmnïau ynni, mae’r galw’n “ddigynsail” ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cymryd rhai camau er mwyn ymateb i’r galw hwnnw.
Maen nhw’n annog pobol i gasglu darlleniad ar Ebrill 2 er mwyn rhoi amser i’r gwefannau sefydlogi eto.
Y cynnydd a’r ymateb iddo
Mae aelwydydd yn wynebu’r cynnydd mwyaf ers cyn cof, 54% neu bron i £700, i £2,000 y flwyddyn.
Mae’r cap ar brisiau ynni sydd ar dariff awtomatig ac sy’n talu trwy ddebyd uniongyrchol yn codi gan £693 o £1,277 i £1,971.
Cwsmeriaid sy’n talu ymlaen llaw fydd yn gweld y cynnydd mwyaf, gyda’r cap yn codi gan £708, o £1,309 i £2,017.
Bu’n rhaid i’r rheoleiddiwr godi’r cap i £1,971 – sy’n record ar gyfer aelwyd gyffredin, wrth i brisiau nwy godi i lefelau digynsail.
Mae elusennau tlodi wedi rhybuddio bod prisiau gwresogi’r cartref wedi dyblu, bron iawn, dros y 18 mis diwethaf, gan adael 6.5m o aelwydydd yn methu byw mewn cartrefi cynnes a diogel yn y Deyrnas Unedig.
Mae Ofgem yn cydnabod y “pryder” yn sgil y cynnydd “unwaith mewn 30 mlynedd”, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “gweithio er mwyn sefydlogi’r farchnad” ac i “amrywio ein ffynonellau ynni i helpu i amddiffyn cwsmeriaid rhag sioc prisiau eto yn y dyfodol”.
Ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae’r Canghellor Rishi Sunak eisoes wedi addo lleddfu effaith y cynnydd ac i roi ad-daliad o £200 ar eu biliau ynni o fis Hydref.
Y llywodraeth fydd yn talu am hyn, ond byddan nhw’n hawlio’r arian yn ôl drwy gynnydd o £40 mewn biliau dros y pum mlynedd nesaf o 2023.
Dylai prisiau ynni ostwng wedyn fel bod modd i aelwydydd ad-dalu’r hyn sydd arnyn nhw i’r llywodraeth, a hynny heb orfod codi eu biliau’n sylweddol.
Ond mae rhai cwmnïau ynni wedi mynegi pryderon fod y polisi’n rhy ddibynnol ar ostwng prisiau nwy ar draws y byd, gyda Goldman Sachs yn rhybuddio bod prisiau’n debygol o fod dwywaith eu lefel arferol tan 2025.