Mae Plaid Cymru wedi galw am dreth ffawdelw un tro (windfall tax) ar gwmnïau ynni, gan ddweud y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i wneud hynny os nad yw San Steffan yn bwriadu gwneud.

Daw hyn wrth i brisiau ynni gynyddu’n aruthrol ar draws y Deyrnas Unedig, tra bod cwmnïau ynni yn gwneud elw enfawr yn sgil yr argyfwng costau byw.

Rhybuddia Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, y bydd yr argyfwng costau yn effeithio ar bobol yng Nghymru yn waeth na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

“Bydd unrhyw gynnydd yng nghostau byw yn cael effaith sylweddol, felly gallai cynnydd o 54% yn y cap ar brisiau ynni fod yn drychinebus i ormod o aelwydydd yng Nghymru,” meddai.

“Dros y gaeaf, helpodd Llywodraeth Cymru gyda chynllun cymorth tanwydd gaeaf, ond mae’r cynnydd mewn prisiau yn digwydd nawr, yn y gwanwyn – ni all y gefnogaeth ddod i ben nawr.

“I deuluoedd yng Nghymru, gallai ychydig gannoedd o bunnoedd wneud gwahaniaeth, ac eto gwyddom fod cwmnïau ynni’n eistedd ar werth biliynau o bunnoedd o elw.

“Allwn ddim aros mwyach i San Steffan wneud y peth iawn i Gymru – mae angen y pwerau arnom i drethu a rheoleiddio’r sector ynni, yma yng Nghymru.

“Mae hyn yn dechrau gyda gosod treth ffawdelw un tro ar gwmnïau ynni.

“Os nad ydyn nhw eisiau ei wneud i ni, yna rhowch y pwerau i ni fel y gallwn ni ei wneud ein hunain!”

Darllen mesuryddion ynni: gwefannau’n methu ymdopi wrth i bobol heidio i gyflwyno’u ffigurau

Daw hyn ddiwrnod yn unig cyn i brisiau ynni godi’n sylweddol ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd