Mae disgwyl i Gatalwnia gynnal arbrawf incwm sylfaenol cyffredinol mawr ymhen blwyddyn, wrth i 5,000 o bobol dderbyn symiau misol o arian rhwng €300-€950 yn dibynnu ar eu hoedran, eu hincwm a maint eu cartref.

Yn ôl Bru Laín, athro cysylltiol ym Mhrifysgol Barcelona, fe allai fod yn un o’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol yn Ewrop os nad y byd, meddai gwefan newyddion Catalan News.

Bydd yr arbrawf, sy’n cael ei drafod gan arbenigwyr yr wythnos hon, yn cael ei gynnal rhwng mis Ionawr a y flwyddyn nesaf a mis Rhagfyr 2024 mewn nifer o ardaloedd sydd heb eu cadarnhau, a fydd dim amodau megis cyflogaeth nac addysg, ac fe fydd e ar gyfer unigolion yn hytrach nag aelwydydd neu unrhyw uned deuluol arall.

Mae Sergi Raventós Panyella, pennaeth swyddfa cynlluniau peilot Catalwnia, yn dweud bod angen shifft meddylfryd o ran polisïau cymdeithasol, yn enwedig o ystyried effaith economaidd y pandemig ar y byd.

Mewn rhannau eraill o’r byd, mae arbrofion incwm sylfaenol wedi arwain at leihau tlodi a dyledion, gwella arferion bwyta, lleihau straen, gwella lles a hapusrwydd, a chodi lefelau presenoldeb mewn ysgolion.

Beth yw arbrawf incwm sylfaenol?

Ers y 1960au, mae dros 200 o arbrofion wedi’u cynnal lle mae cyfranogwyr yn derbyn swm o arian am gyfnod penodol o amser.

Ymhlith y gwledydd sydd wedi cynnal arbrofion o’r fath mae’r Iseldiroedd, y Ffindir, Namibia a’r Unol Daleithiau.

Roedd rhai yn canolbwyntio ar weithwyr ar incwm isel ac eraill yn edrych ar weithwyr ar gyflogau uwch fel sydd ar y gweill yng Nghatalwnia.

Bydd yr arbrawf yn galluogi arbenigwyr i fesur effaith rhaglen o’r fath ar holl drigolion ardaloedd penodol yn hytrach na grwpiau llai o drigolion.

Daw’r cynllun peilot yng Nghatalwnia o ganlyniad i gytundeb rhwng pleidiau annibyniaeth CUP ac Esquerra yn dilyn etholiad cyffredinol y llynedd, lle gwnaeth Esquerra a Junts per Catalunya fethu â sicrhau mwyafrif yn y senedd, gan orfod dibynnu ar gefnogaeth CUP.