Mae’n ymddangos nad yw Datganiad y Gwanwyn Rishi Sunak, Canghellor y Deyrnas Unedig, wedi gwneud llawer o argraff yma yng Nghymru – gydag economegydd blaenllaw yn dweud wrth golwg360 ei fod heb “ddychymyg na pherthnasedd” i Gymru.

Mae wedi cael ei ddisgrifio gan wleidyddion ac economegwyr fel ‘gwastraffus’, ’diddychymyg’ ac ‘anfaddeuol’.

Fodd bynnag, roedd yna elfennau sydd wedi’u croesawu, megis y toriad o 5c i’r dreth tanwydd a’r toriad i TAW ar fesurau effeithlonrwydd ynni.

“Gwastraffu cyfle”

Fe wnaeth y Canghellor “wastraffu’r cyfle i ddarparu cefnogaeth ystyrlon”, yn ôl Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.

“Bydd pobol yn iawn i deimlo eu bod wedi’u siomi gan y datganiad heddiw,” meddai.

“Mae biliau’n codi’n gyflym ac mae incwm gwario yn gostwng, ond nid oes digon yn y datganiad heddiw sy’n cydnabod y frwydr y mae llawer yn ei hwynebu.

“Mae’n ddatganiad ideolegol gan y Canghellor sydd heb fesurau ymarferol i helpu’r rhai sydd angen help fwyaf – does dim byd i’r rhai sy’n methu gweithio a’r rhai ar incwm is.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwastraffu’r cyfle i ddarparu cefnogaeth ystyrlon.

“Yng Nghymru, rydym wedi darparu pecyn cymorth costau byw gwerth bron i ddwbl y cymorth cyfatebol a ddarperir yn Lloegr.

“Rydym yn annog pawb i ymgyfarwyddo â’r hyn sydd ar gael ac i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael.

“Ond rydym hefyd yn cydnabod nad yw’n darparu’r atebion i gyd, ac mai gan San Steffan y mae nifer o’r pwerau allweddol megis cymorth lles.

“Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymuno â ni i ddarparu ymateb teilwng i helpu pobl gyda chostau byw cynyddol.”

“Achosi caledi ychwanegol i bobl sydd eisoes yn dioddef”

Mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi cyhuddo’r Canghellor o “achosi caledi ychwanegol i bobol sydd eisoes yn dioddef”.

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am gymorth wedi’i dargedu ar gyfer pobol a busnesau sy’n cael trafferth gyda chostau tanwydd,” meddai.

“Bydd toriad o 5c i’r dreth tanwydd, er ei fod i’w groesawu, yn dal i olygu bod pobol mewn ardaloedd gwledig yn ei chael hi’n anodd ysgwyddo cost teithiau hanfodol.

“Byddai dull wedi’i dargedu wedi bod yn decach.

“Rydym yn croesawu’r toriad i TAW ar fesurau effeithlonrwydd ynni.

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn awr amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda’r Llywodraethau datganoledig ac awdurdodau lleol i gyflawni’r buddsoddiad effeithlonrwydd ynni ar y raddfa eang sydd ei angen inni gael effaith wirioneddol ar filiau pobl.

“Mae’r Canghellor am i ni groesawu ei fesurau ar Yswiriant Gwladol heddiw. Ond mae’r ffeithiau sylfaenol yn dal i fod – mae’r Llywodraeth Geidwadol yn cynyddu Yswiriant Gwladol yng nghanol argyfwng costau byw, sy’n gamgymeriad aruthrol ar ran Rishi Sunak.

“Yn olaf, mae’n destun gofid bod y Canghellor wedi methu â chyhoeddi cynnydd mewn budd-daliadau yn unol â chwyddiant heddiw.

“Bydd yn golygu bod naw miliwn o aelwydydd incwm isel yn profi toriad mewn termau real o £500 y flwyddyn, fisoedd yn unig ar ôl i’r Canghellor ddileu’r cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol.

“Mae’n anfaddeuol ei fod yn achosi caledi ychwanegol i bobl sydd eisoes yn dioddef.”

Cyhuddo ASau Ceidwadol Cymru o “fethu’n llwyr” 

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhuddo aelodau seneddol Ceidwadol Cymru o “fethu’n llwyr” â sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Heddiw, nid yw’r Canghellor wedi rhoi dim i ranbarthau gwledig i’w helpu i ymdopi â’r argyfwng y mae fy nhrigolion yn ei wynebu o ran gallu gwresogi eu cartrefi,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.

“Mae’n amlwg bod ASau Ceidwadol Cymru yn methu â dylanwadu ar y Canghellor er eu bod bron yn gyfangwbl yn cynrychioli rhannau gwledig o Gymru.

“Mae’r toriad i’r dreth tanwydd i’w groesawu, ond dim ond rhwng £2-£3 y bydd yn ei gymryd oddi ar lenwi’ch car.

“Yn bwysicach na hynny, mae’r Canghellor wedi gwrthod cyflwyno treth ffawdelw (windfall) ar gwmnïau olew.

“Mae cwmnïau olew a nwy yn gwneud mwy o elw nag erioed o’r blaen tra bod y gweddill ohonom yn dioddef.”

‘Adeiladu economi gryfach’

Fodd bynnag, mae Datganiad Gwanwyn y Canghellor “yn mynd i’r afael â’r heriau enfawr sy’n wynebu Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig,” yn ôl Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Bydd y gostyngiad yn y dreth tanwydd, cymorth i deuluoedd sy’n gweithio, a’r toriadau treth i enillwyr isel a chanolig yn helpu miloedd o bobl ledled Cymru, tra bydd Llywodraeth Cymru yn cael £27m yn fwy o gyllid i gefnogi teuluoedd sy’n agored i niwed dros y misoedd nesaf,” meddai.

“Yn ystod dwy flynedd ddiwethaf y pandemig, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cefnogi swyddi ac incwm pobl ledled Cymru.

“Mae’r rhyfel yn Wcráin bellach wedi dod â heriau newydd, ond mae’r mesurau heddiw’n dangos ein bod yn parhau i adeiladu economi gryfach a mwy diogel ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.”

‘Dim dychymyg na pherthnasedd’

“Ar y cyfan, nid oedd gan y datganiad lawer i’w ddweud ac nid oedd ganddo unrhyw ddychymyg na pherthnasedd,” meddai Dr John Ball, cyn-ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Abertawe, wrth golwg360.

“Roedd y prif fesurau a gyhoeddwyd yn ddim mwy nag adwaith difeddwl i broblem chwyddiant tymor byr.

“Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn y trothwy yswiriant gwladol i’w groesawu yma yng Nghymru gan fod llawer o’n gweithlu’n cael eu talu’n wael ac mae’r dreth hon yn cael effaith anghymesur ar y rhai sy’n cael cyflog isel.

“Mae’r toriad mewn treth incwm i’w groesawu hefyd, ond wrth gwrs, dydy e ddim yn gymwys am ddwy flynedd arall ac erbyn hynny, bydd chwyddiant wedi gostwng ei werth.

“Mae’r toriad yn y dreth ar danwydd i’w groesawu, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru er ei fod yn codi cwestiynau am uchelgais gwyrdd y Llywodraeth.

“Er hynny, mae’r gostyngiad TAW mewn deunyddiau arbed ynni yn gam i’r cyfeiriad cywir.

“Mae angen llawer mwy o fanylion am yr ardaloedd hynny a fydd yn elwa o arian ar gyfer “codi’r gwastad”.

Prif bwyntiau trafod Datganiad y Gwanwyn Canghellor y Deyrnas Unedig

Huw Bebb

golwg360 yn edrych ar brif bwyntiau trafod Datganiad y Gwanwyn