Gyda Rishi Sunak, Canghellor y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi Datganiad y Gwanwyn, mae golwg360 yn edrych ar y prif bwyntiau trafod.
Wcráin
Dechreuodd y Canghellor drwy dalu teyrnged i filwyr ym myddin Wcráin.
Dywedodd fod gan y Deyrnas Unedig “gyfrifoldeb moesol” i ddefnyddio ei “chryfder economaidd” i helpu Wcráin, gan gynnwys darparu cymorth economaidd a dyngarol, yn ogystal â sancsiynau yn erbyn Rwsia.
Ond rhybuddiodd fod y camau yn erbyn Rwsia yn cyflwyno “risg i’n hadferiad”.
Ychwanegodd fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud ei bod yn rhy gynnar i ddweud beth fydd union effaith y rhyfel yn Wcráin.
“Barn gychwynnol” y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y bydd economi’r Deyrnas Unedig yn tyfu 3.8% eleni.
Mae disgwyl i hynny gael ei ddilyn gyda thwf o 1.8% yn 2023, ac yna 2.1%, 1.8% ac 1.7% yn y tair blynedd ganlynol.
Aeth y Canghellor yn ei flaen i rybuddio mai ar gostau byw y bydd y rhyfel yn Wcráin yn cael yr “effaith fwyaf sylweddol”.
Ychwanegodd fod y pandemig Covid-19 eisoes yn golygu bod prisiau nwyddau ac ynni yn uchel, ond mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bellach yn rhagweld y bydd chwyddiant yn taro 7.4% erbyn diwedd y flwyddyn.
Toriad o 5c i’r dreth ar danwydd
Trodd Rishi Sunak wedyn at amlinellu ei fesurau i helpu pobol drwy’r argyfwng costau byw.
Yn gyntaf, cyhoeddodd doriad o 5c i’r dreth ar danwydd – y “toriad mwyaf i’r holl gyfraddau treth tanwydd erioed”, yn ôl y Canghellor
Bydd y toriad yn dod i rym am 6 o’r gloch heno (nos Fercher, Mawrth 23) ac yn para tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.
“Heddiw gallaf gyhoeddi y bydd treth tanwydd yn cael ei thorri am yr eildro mewn 20 mlynedd yn unig,” meddai.
“Nid fesul un, nid hyd yn oed gan ddau, ond 5c y litr. Y toriad mwyaf i’r holl gyfraddau treth tanwydd – erioed.
“Er bod rhai wedi galw am i’r toriad bara tan fis Awst, rwyf wedi penderfynu y bydd yn ei le tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf – 12 mis llawn.
“Mae’n doriad treth i deuluoedd a busnesau sy’n gweithio’n galed ac yn doriad sydd werth dros £5bn, a bydd yn dod i rym o 6 o’r gloch heno.”
Dywed y grŵp moduro RAC y bydd torri treth tanwydd o 5c yn cymryd £3.30 yn unig oddi ar y gost o lenwi car teulu 55 litr.
Cymorth biliau ynni
Cyhoeddodd Rishi Sunak y bydd Treth Ar Werth (TAW) yn gostwng o 5% i 0% ar ddeunyddiau fel paneli solar, pympiau gwres ac insiwleiddio mewn ymgais i helpu perchnogion tai i osod mwy o ddeunyddiau arbed ynni.
Dywedodd y bydd teulu sy’n cael panel solar wedi’i osod yn gweld arbedion treth gwerth dros £1,000 ac arbedion o dros £300 y flwyddyn ar eu bil ynni.
Bydd y cap ar brisiau ar gostau ynni yn codi 54% o 1 Ebrill, gan gynyddu costau blynyddol aelwydydd ar dariffau debyd uniongyrchol £693 a £708 i’r rhai sydd ar gynlluniau talu ymlaen llaw.
Bwriad y gefnogaeth a gafodd ei chyhoeddi ym mis Chwefror yw helpu gydag ad-daliad treth gyngor o £150 ar gyfer tai ym mandiau A-D yn dod ym mis Ebrill, a gostyngiad o £200 ar filiau ar ffurf benthyciad o fis Hydref ymlaen.
Yswiriant Gwladol
Cyhoeddodd y Canghellor y bydd y Llywodraeth yn codi’r trothwy ar gyfer y swm y mae pobol yn ei ennill cyn iddyn nhw dalu Yswiriant Gwladol.
“O fis Gorffennaf eleni, bydd pobol yn gallu ennill £12,570 y flwyddyn heb dalu’r un geiniog o dreth incwm neu Yswiriant Gwladol,” meddai.
“Mae hynny’n doriad treth bersonol o £6bn i 30m o bobol ar draws y Deyrnas Unedig.
“Toriad treth i weithwyr gwerth dros £330 y flwyddyn.”
Ychwanegodd mai dyma’r “cynnydd mwyaf mewn trothwy cyfradd sylfaenol erioed, a’r toriad treth bersonol unigol mwyaf mewn degawd.”
Torri cyfradd sylfaenol treth incwm
Cyhoeddodd Rishi Sunak ei fwriad i dorri cyfradd sylfaenol treth incwm cyn diwedd y Senedd bresennol yn 2024.
“Nod clir i gangellorion Ceidwadol, a hyd yn oed rhai Llafur, oedd torri treth incwm,” meddai.
“Mae’r ffaith mai dim ond ddwywaith mewn 20 mlynedd y mae hyn wedi digwydd yn dweud wrthych pa mor anodd yw gwneud hynny.
“Byddai’n anghyfrifol cyflawni’r uchelgais hwn eleni – ond rwy’n gwrthod troi fy nghefn ar yr uchelgais hwnnw.
“Erbyn 2024, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar hyn o bryd yn disgwyl i chwyddiant fod yn ôl dan reolaeth, dyled yn gostwng yn gynaliadwy, a’r economi’n tyfu.
“Felly, fy nghyhoeddiad olaf heddiw yw hyn: Gallaf gadarnhau, cyn diwedd y Senedd hon, yn 2024, am y tro cyntaf ers 16 mlynedd, y bydd cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn cael ei thorri o 20 i 19c yn y bunt.
“Toriad treth i weithwyr, i bensiynwyr, i gynilwyr. Toriad treth o £5 biliwn i 30m o bobol.”
Daeth Rishi Sunak i ben drwy ddweud wrth ASau fod ei gynllun treth yn darparu’r “toriad net mwyaf i drethi personol mewn dros chwarter canrif.”
‘Y Canghellor ddim yn deall maint yr her’
Fodd bynnag, mae dewisiadau’r Canghellor yn gwneud yr argyfwng costau byw yn waeth, nid yn well, yn ôl canghellor yr wrthblaid, Rachel Reeves.
Wrth ymateb i ddatganiad gwanwyn Rishi Sunak, dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin mai “heddiw oedd y diwrnod y gallai’r Canghellor fod wedi rhoi treth ffawdelw (windfall) ar gwmnïau olew a nwy i roi cymorth gwirioneddol i deuluoedd, ond wnaeth e ddim”.
“Heddiw oedd y diwrnod y gallai’r Canghellor fod wedi gosod cynllun priodol i gefnogi busnesau a chreu swyddi da. Ond wnaeth e ddim,” meddai.
“Heddiw oedd y diwrnod y gallai fod wedi cael gwared ar y cynnydd i yswiriant gwladol, ond wnaeth e ddim.
“Fe ddywedon ni mai dyma’r dreth anghywir ar yr adeg anghywir, y dewis anghywir.
“Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 30 mlynedd ac yn codi. Prisiau ynni ar eu lefel uchaf erioed.
“Er ei holl eiriau, mae’n amlwg nad yw’r Canghellor yn deall maint yr her.
“Mae’n sôn am ddarparu diogelwch i deuluoedd sy’n gweithio, ond mae ei ddewisiadau’n gwneud yr argyfwng costau byw yn waeth, nid yn well.”
‘Cywilyddus’
Ychwanegodd Rachel Reeves, nad oedd cynllun y Llywodraeth yn gwneud dim i bobol ar gyrion tlodi tanwydd nac i bensiynwyr sy’n wynebu “toriad mewn termau real” i’w hincwm.
“Dros y penwythnos, gofynnwyd i’r Canghellor am dlodi tanwydd ac nid oedd hyd yn oed yn gwybod y niferoedd,” meddai.
“Rydym yn gwybod nad yw pensiynau a nawdd cymdeithasol yn mynd i gadw i fyny â chwyddiant.
“Mae pensiynwyr a’r rhai ar nawdd cymdeithasol yn wynebu toriad mewn termau real yn eu hincwm.
“Felly, pa ddadansoddiad y mae’r Canghellor wedi’i wneud o effaith budd-daliadau sy’n cael cynyddu ar raddfa lai na chwyddiant?
“Faint yn fwy o blant a phensiynwyr fydd yn llithro i dlodi oherwydd… y Llywodraeth hon?”