Mae angen i ddiogelwch bwyd fod yn rhan hanfodol o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermwyr, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 23), bydd Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gynnal cynhadledd fwyd ac am gynnwys diogelwch bwyd fel nwydd cyhoeddus dan y gyfraith.
Byddai cynhadledd o’r fath yn dod â ffermwyr, cynhyrchwyr, a gwerthwyr ynghyd er mwyn adeiladu gwydnwch cadwyni bwyd Cymru, a chefnogi Bil Bwyd y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, meddai.
Byddai’r Bil Bwyd, sy’n cael ei gynnig gan Peter Fox, yr Aelod o’r Senedd dros Sir Fynwy, yn rhoi dyletswydd ar weinidogion i lunio Strategaeth Fwyd blynyddol i Gymru.
Pwrpas y strategaeth fyddai mynd i’r afael â thlodi bwyd a diffyg maeth, sicrhau twf cynaliadwy’r diwydiant bwyd i greu swyddi a denu buddsoddiadau, a sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd lleol a chynaliadwy’n cael mynediad at gefnogaeth addas.
Mae Llywodraeth Cymru yn peryglu diogelwch bwyd Cymru oni bai eu bod nhw’n cefnogi galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig, meddai Samuel Kurtz.
Daw’r ddadl wedi i ymosodiad Rwsia ar Wcráin amharu ar gynhyrchu bwyd yn y wlad. Mae Wcráin yn cynhyrchu traean o allforion gwenith y byd, ac mae rhybuddion y bydd hynny’n amharu ar gynnyrch amaethyddol megis gwrtaith, gan arwain at gynnydd mewn prisiau a phrinderau posib.
‘Cryfhau systemau bwyd domestig’
Dywed Samuel Kurtz, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, fod ffermwyr Cymru’n gwneud “gwaith gwych” yn bwydo’r genedl.
“Ond, nawr, mae hi’n bwysicach nag erioed eu bod nhw ar y rheng flaen wrth wella’n diogelwch bwyd o ystyried bod pwysigrwydd newydd i’r syniad hwnnw ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin,” meddai.
“Bydd cryfhau systemau cynhyrchu bwyd domestig yn gwneud Cymru’n fwy gwydn i ergydion yn y system fyd-eang ac yn llai dibynnol ar fewnforion bwyd.
“Mae gan ein holl arweinwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod diogelwch bwyd yn rhan o’r agenda ddiogelwch fawr.
“Bydd geiriau gwag yn arwain at blatiau gwag, felly gadewch i ni flaenoriaethu cynnyrch Cymreig, sy’n arweinydd byd-eang o ran ansawdd, cynaliadwyedd, a blas.
“Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig, trefnu cynhadledd fwyd, a chefnogi Bil Bwyd y Ceidwadwyr Cymreig os ydyn nhw o ddifrif eisiau parhau i fwydo’r genedl a chefnogi ein diwydiant amaethyddol.”