Mae dwy flynedd i’r diwrnod ers i Boris Johnson gyhoeddi ar deledu Prydeinig y byddai’r Deyrnas Unedig gyfan yn cael gorchymyn i ddilyn cyfnod clo am y tro cyntaf.
O Fawrth 23 2020, roedd disgwyl i bawb aros gartref, a dim ond gadael er mwyn gwneud pethau angenrheidiol fel siopa, ymarfer corff, neu am resymau meddygol.
Cafodd pob cysylltiad cymdeithasol ei dorri ar unwaith, ac roedd popeth dan haul yn digwydd dros Zoom.
Does dim rhaid cael ein hatgoffa, ond roedd yn gyfnod o ansicrwydd mawr, wrth i nifer orfod gweithio o bell a wynebu misoedd o segurdod, tra bod eraill yn gweithio yn llygaid y storm mewn masgiau a gwisgoedd diogelwch.
Ond yng nghanol yr holl gythrwfl, trodd rhai eu llaw at greu eitemau a dechrau gwasanaethau oedd, dros nos, wedi dod yn angenrheidiol.
Mae golwg360 wedi bod yn siarad â rhai ohonyn nhw.
Masgiau i bawb o bobol y byd
Roedd Tracey Williams o Lanfairfechan yn ofalwr maeth cyn y pandemig.
Unwaith tarodd y cyfnod clo, fe benderfynodd hi chwarae ei rhan a chreu masgiau i’r rheiny oedd eu hangen.
“Fe welais i apêl am fasg ar Facebook gan rywun oedd â system imiwnedd isel,” meddai.
“Roeddwn i wedi gwnïo o’r blaen – yn gwneud llenni a ffrogiau ac ati – ond doeddwn i erioed wedi gwneud hyn.
“Ond fe wnes i un iddi hi, ac fe wnaeth o dyfu o hynny.”
Fe ddechreuodd hi gynhyrchu mwy o fasgiau yn oherwydd y prinder ohonyn nhw mewn cartrefi gofal ac ysbytai ar ddechrau’r pandemig.
“O’n i’n gweithio o wyth o’r gloch y bore tan wyth o’r gloch y nos,” meddai.
“Roedd fy ngŵr a fy mab yn helpu allan hefyd.
“Dw i’n credu gwnes i 3,000 o fasgiau yn y diwedd, ac roedd bron pob un aelwyd yn yr ardal efo masg wnes i ei greu.”
‘Hynod o bwysig wrth drio atal lledaeniad y firws’
Roedd Tracey Williams yn gwneud y masgiau o’i gwirfodd, er ei bod hi’n gorfod tynnu arian allan o’i phoced ambell waith i brynu’r deunydd priodol.
“Doeddwn i ddim yn codi tâl ar neb, ond fe o’n i’n talu am y deunydd ambell waith,” meddai.
“Fe wnaeth lot o bobol roi cwilts ac ati oeddwn i’n gallu eu torri wedyn.
“Fe gefais i un ddynes a roddodd ddisgownt i fi ar ffabrig yn ei siop hi hefyd.”
Mae hi bellach yn gweithio yn nistyllfa Aber Falls, a dydy hi ddim yn creu masgiau rhagor.
Ers i’r pandemig ddatblygu, mae masgiau a chyfarpar diogelu personol (PPE) wedi cael eu cynhyrchu ar raddfa fwy ac i safon uwch.
“Fe wnaeth pobol ar hyd y lle chwilio amdana i ar Facebook yn ymbil am fasgiau gan fod ganddyn nhw ddim rhai,” meddai wedyn.
“Ro’n i’n teimlo fel fy mod i ddim yn gallu stopio achos bod cymaint o bobol eu hangen nhw ac maen nhw wedi bod yn hynod o bwysig wrth drio atal lledaeniad y firws, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal.
“Roedd o’n waith caled – ond fe gadwodd fi’n brysur!”
Bwyd i’r stepen ddrws
Ers 13 mlynedd, mae Hayley Peace wedi bod yn rhedeg bwyty Public House gyda’i gwr Phil ym Mhenmon ar Ynys Môn – sydd â golygfeydd trawiadol iawn o Eryri a’r Gogarth.
Wedi ychydig fisoedd o’r cyfnod clo, fe welon nhw y byddai’n rhaid arallgyfeirio er mwyn cadw’r busnes i fynd, felly penderfynon nhw ddechrau gwerthu prydau o bell.
Roedd hynny’n cynnwys gwasanaeth takeaway, lle’r oedd pobol yn dod i nôl y bwyd eu hunain, yn ogystal â gwasanaeth danfon prydau yn uniongyrchol i gartrefi pobol.
“Mis Gorffennaf 2020 oedd hi pan ddechreuon ni popeth,” meddai Hayley.
“Fe benderfynon ni arallgyfeirio – rhywbeth oedden ni wastad wedi bod eisiau ei wneud – a’n amlwg roedd hyn yn ein gwthio i ni wneud hynny.
“Cafodd pob ceiniog y cawson ni [mewn grantiau] ei roi’n syth yn ôl i mewn i’r busnes.”
‘Rhoi’r gwasanaeth oedd y prif beth’
Roedd y bwyty o bell yn gweithredu bwydlen syml i ddechrau, ond dros y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi ehangu i wneud mwy o brydau.
“Roedden ni yn gwneud hyn am ddim i ddechrau, hyd yn oed os oedd yr archeb yn fach neu’n gymharol bell,” meddai.
“Fe oedd yn dipyn o newid, ond fyswn i ddim yn dweud ei fod o wedi bod yn anodd. Roedd o’n rhywbeth oedd rhaid i ni ei wneud.
“Doedd pobol yn llythrennol ddim eisiau gadael y tŷ, yn enwedig yr henoed, pobol anabl, pobol oedd â phlant, a doedd dim byd ar gael iddyn nhw. Roedd pobol wirioneddol ofn.
“Rhoi’r gwasanaeth oedd y prif beth, nid gwneud arian.”
Roedd y busnes wedi gwneud cryn dipyn o enw i’w hun yn ystod y cyfnod, ac fe gawson nhw gydnabyddiaeth gan yr Aelod Seneddol lleol Virginia Crosbie am eu gwaith.
“Rydyn ni’n fodlon ein bod ni wedi gallu gwasanaethu’r gymuned,” meddai.
“Cawson ni ein gwahodd i San Steffan, ac roedden ni’n mwynhau cael y gwerthfawrogiad yna ganddyn nhw a gan y gymuned.
“Rydyn ni wastad yn gweithio’n galed er mwyn darparu a gwasanaethu, a diogelu pobol hefyd.”
Gan nad oes cymaint o alw mwyach, fe fydd y perchnogion yn cyfnewid y gwasanaeth danfon bwyd am wasanaeth takeaway hwyrach, gan fod pobol yn fwy awyddus i adael eu cartrefi erbyn hyn.