Carwyn Jones
Bydd Prif Weinidog Cymru ac arweinydd UKIP yn mynd benben â’i gilydd mewn dadl tros aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i’r ddadl rhwng Carwyn Jones a Nigel Farage ddigwydd ar 11 Ionawr yng Nghaerdydd ac mae’n cael ei chynnal gan Sefydliad y Materion Cymreig a Phrifysgol Caerdydd.

“Gyda refferendwm yn debygol yn y flwyddyn nesaf, mae’n hollbwysig ein bod yn cael y cyfle i weld cymeriadau allweddol yn dadlau’n gyhoeddus dros oblygiadau Prydain a Chymru o adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Cyfarwyddwr Sefydliad y Materion Cymreig, Lee Waters.

Lansiodd Llafur Cymru ei hymgyrch dros aros yn yr UE ddoe gan ddweud bod economi Cymru’n dibynnu ar yr undeb ac y gallai golli 200,000 o swyddi os bydd Prydain yn penderfynu gadael.

Ond mae UKIP, sy’n ymgyrchu i adael yr UE yn dweud y byddai Cymru’n derbyn mwy o arian gan Lywodraeth Prydain petai’r DU yn penderfynu gadael.

Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2017 a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ym Manceinion.