Mae Maer Aberdaugleddau, sydd wedi efeillio gydag Uman yng nghanol yr Wcráin, wedi dweud wrth golwg360 bod ei “gweddïon” gyda thrigolion y ddinas yn sgil y rhyfel â Rwsia.
Fe ddaeth Aberdaugleddau yn efeilltref i’r ddinas o 82,154 o bobol yn 1990, ac mae dros 30 blynedd o gysylltiad yn golygu “ein bod ni’n eu hadnabod”, medd Kathy Gray.
Nid yw’r rhyfela wedi cyrraedd Uman – sydd rhyw 130 o filltiroedd i’r de o Kyiv – eto, ond mae Kathy Gray yn dweud bod trigolion Aberdaugleddau yn gofidio am eu cyfeillion yn yr Wcráin.
Ac er ei bod hi’n gobeithio y bydd “diwedd heddychlon i’r rhyfel”, dyw hi ddim yn gwybod pryd y gwnawn nhw weld ei gilydd eto.
“Eithriadol o drist”
“Mae Uman yn efeilldref i ni yma yn Aberdaugleddau, ac mae pobol Aberdaugleddau yn cydymdeimlo gyda nhw oherwydd mae ein dwy gymuned wedi cysylltu ers 1990, rydyn ni’n eu hadnabod,” meddai Kathy Gray wrth golwg360.
“Mae criw ohonyn nhw fel arfer yn ymweld â ni unwaith pob dwy flynedd, ac wedyn rydan ni’n teithio draw atyn nhw.
“Yn amlwg, dydyn ni ddim wedi gallu eu gweld nhw ers dwy flynedd oherwydd Covid, a hon fydd y drydedd flwyddyn.
“Roedden ni wedi gobeithio cael eu gweld nhw eleni, ond pwy a ŵyr pryd y cawn ni eu gweld nhw nesaf.
“Maen nhw’n bobl fendigedig a dw i jyst yn meddwl bod yr hyn rydyn ni’n ei weld yn digwydd draw yna yn eithriadol o drist.”
“Undod a chefnogaeth”
“Rydyn ni wedi gosod sawl casgliad yn y dref, ac ar hyd a lled Sir Benfro, er mwyn i bobol allu cyfrannu rhoddion ariannol neu hanfodion i’w hanfon i bobol Uman a’r Wcráin, er dw i ddim yn siŵr sut y byddan ni’n eu hanfon ar hyn o bryd,” meddai wedyn.
“Byddan ni hefyd yn anfon cymorth ariannol i Uman o goffrau cyngor y dref, maen nhw angen pob cefnogaeth ar hyn o bryd.
“Rydw i wedi anfon llythyr i’w Maer nhw i ddangos undod a chefnogaeth.
“Mae ein gweddïon gyda nhw, ac rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n saff a bydd yna ddatrysiad heddychlon i’r rhyfel.”