Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman yn hyderus o gyrraedd rownd yr 16 olaf yn Ewro 2016 yn Ffrainc haf nesaf.

Cafodd Cymru wybod nos Sadwrn y byddan nhw’n herio Lloegr, Rwsia a Slofacia yng ngrŵp B fis Mehefin nesaf.

Er y bydd cryn drafod yn y misoedd nesaf am yr ornest rhwng Cymru a Lloegr, dywedodd Coleman fod cyfle i ddial ar Rwsia am atal Cymru rhag cyrraedd Ewro 2004.

Collodd Cymru o 1-0 yn y gemau ail-gyfle a daeth hi i’r amlwg fod un o chwaraewyr Rwsia, Egor Titov wedi cael chwarae yn yr ail gymal er ei fod e wedi methu prawf cyffuriau’n dilyn y cymal cyntaf.

Dywedodd Chris Coleman: “Gwnaethon nhw dorri ein calonnau ni’r diwrnod hwnnw ac rwy’n dal i gofio’r teimlad hwnnw o golli yn y gemau ail gyfle.

“Dial – dyna anfonodd fy mab mewn neges destun yn syth wedi i’r enwau ddod o’r het. Rwy’n cofio’r teimlad pan gollon ni allan – roedd yn ofnadwy.”

Lloegr

Cyfaddefodd Chris Coleman y byddai’n gamgymeriad i ganolbwyntio’n ormodol ar yr ornest yn erbyn Lloegr yn Lens, gan fod sicrhau triphwynt yn erbyn Slofacia yn Bordeaux yn allweddol.

“Rhaid i ni beidio tynnu’n meddyliau oddi ar y rheswm pam ein bod ni yno, sef mynd heibio’r grŵp, nid ennill un gêm yn unig.

“Nid curo Lloegr yw popeth, ond rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm gwych, mae gen i barch mawr at Roy [Hodgson].”

Slofacia a Rwsia

Wrth drafod eu gwrthwynebwyr eraill, ychwanegodd Chris Coleman: “Mae Slofacia’n dîm da ac fe guron nhw Sbaen wrth gymhwyso felly mae ganddyn nhw lawer i’w ddweud, mae Rwsia’n dda wrth ymosod ond maen nhw’n gallu ildio goliau.

“Mae nifer o dimau blasus yno ond gallwn ni gymhwyso o’r grŵp yn sicr.”

‘Cyfnod cyffrous’

Ychwanegodd rheolwr Cymru ei fod wedi cyrraedd cyfnod cyffrous yn ei yrfa wrth arwain ei wlad yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

“Yn sydyn, fe ddaeth y cyfan yn real iawn.

“Ro’n i’n eistedd ac yn edrych ar yr holl reolwyr – Joachim Low, Vicente del Bosque, Roy Hodgson – ac rydych chi’n sylweddoli eich bod chi mewn cwmni go iawn yma.

“Ond mae’n deimlad gwych ac ro’n i mor falch o gael bod yno’n cynrychioli Cymru.”