Mae cyn-droellwr Swydd Sussex, Ashar Zaidi wedi galw ar chwaraewr amryddawn Gwlad yr Haf, Craig Overton i ymddiheuro am wneud sylw hiliol yn ystod gornest ym mis Medi.
Yr wythnos hon, cafodd Overton ei wahardd am ddwy gêm am ddweud wrth Zaidi, sy’n hanu o Bacistan, am “ddychwelyd i’w wlad ei hunan” wrth i’r siroedd herio’i gilydd yn Hove.
Cafwyd Overton yn euog o dorri cod ymddygiad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, sy’n drosedd ‘Lefel 1’.
Mae Overton yn gwadu ei fod e wedi gwneud sylw hiliol a doedd Zaidi ddim wedi ei glywed.
Ond cafodd ei glywed gan fatiwr Swydd Sussex, Mike Yardy ac un o’r dyfarnwyr, Alex Wharf.
Dywedodd Zaidi wrth bapur newydd y Telegraph: “Pan glywais i beth oedd wedi digwydd, ro’n i’n gandryll, yn enwedig gan nad oedd y boi ’na yn ddigon o foi i ddod i ymddiheuro wedyn.
“Y diwrnod canlynol, wnaeth e ddim edrych i fy llygaid a wnaeth e ddim cynhesu gyda gweddill ei dîm. Hefyd, daeth swyddogion o Wlad yr Haf i siarad gyda fi.
“Mae arno fe ymddiheuriad i fi. Rwy wedi chwarae ledled Lloegr ac erioed wedi profi’r fath ymddygiad hiliol.”
Yn 2014, cafodd capten Swydd Efrog, Andrew Gale ei wahardd am bedair gêm am sarhau Ashwell Prince o Dde Affrica mewn modd hiliol, a chafodd y drosedd honno ei thrin fel un ‘Lefel 2’.
Dywedodd hyfforddwr Swydd Efrog, Jason Gillespie ar Twitter ei fod yn awyddus i gael eglurhad gan y bwrdd criced o’r gwahaniaeth yng nghosb y ddau chwaraewr.
Awgrymodd Zaidi nad oedd cosb Overton yn ddigonol o ystyried achos Gale.