Gweilch 19–16 Bordeaux
Dan Biggar a sgoriodd holl bwyntiau’r Gweilch wrth iddynt drechu Bordeaux Begles yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar y Liberty nos Sadwrn.
Chwaraeodd y Ffrancwyr bron i hanner y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn coch Dubié ond cael a chael oedd hi i’r Gweilch serch hynny mewn gêm agos.
Cyfnewidiodd Biggar a Pierre Bernard ddwy gic gosb yr un yn y 24 munud agoriadol cyn i’r ymwelwyr groesi am gais cyntaf y gêm wedi ychydig llai na hanner awr.
Gydag Alun Wyn Jones yn y gell gosb, fe fanteisiodd Felix Le Bourhis ar y gwagle i groesi yn y gornel.
Rhoddodd trosiad Bernard y Ffrancwyr saith pwynt ar y blaen, ond caeodd Biggar y bwlch gyda’i drydedd cic gosb bum munud cyn yr egwyl.
Newidiodd y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod pan dderbyniodd Jean-Baptiste Dubié gerdyn coch am daro Biggar.
Wnaeth hynny ddim effeithio’r maswr yn ormodol achos roedd wedi croesi am gais i roi’r Gweilch ar y blaen o fewn munud! Ychwanegodd y trosiad i ymestyn y fantais i chwe phwynt.
Caeodd Romain Lonca’r bwlch i dri gyda chic gosb yn fuan wedyn ond daliodd y Gweilch eu gafael a gorffennodd Bordeaux y gêm gyda thri dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn arall i Jean-Baptiste arall, un melyn y tro hwn i Poux!
Mae’r canlyniad yn cadw gobeithion y Gweilch yn fyw yng ngrŵp 2, mae’r fuddugoliaeth yn eu codi i frig y tabl gyda deg pwynt o’u tair gêm gyntaf.
.
Gweilch
Cais: Dan Biggar 51’
Trosiad: Dan Biggar 52’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 3’, 15’, 35’, 42’
Cerdyn Melyn: Alun Wyn Jones 29’
.
Bordeaux
Cais: Felix Le Bourhis 29’
Trosiad: Pierre Bernanrd 30’
Ciciau Cosb: Pierre Bernard 5’, 24’, Romain Lonca 56’
Cerdyn Melyn: Jean-Baptiste Poux 75’
Cerdyn Coch: Jean-Baptiste Dubié 44’